Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd
cywyddwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd neu Robin Ddu ap Siencyn neu Robin Ddu Ddewin (fl. 1440 – 1470). Roedd yn frodor o Ynys Môn (amrywiad arall ar ei enw yw Robin Ddu o Fôn).[1]
Bywgraffiad
Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ei hun ar wahân i'r ffaith ei fod yn frodor o Fôn ac iddo ganu i rai o brif deuluoedd Gogledd Cymru tua chanol y 15g.[1]
Cedwir tua 90 o gywyddau a briodolir iddo fo ac eraill, ond mae rhai ohonynt yn fwy tebygol o fod yn waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, oedd yn adnabod Robin Ddu. Fel Dafydd Llwyd, canai Robin Ddu gerddi brud sy'n perthyn i draddodiad y Canu Darogan a fu'n arbennig o ffyniannus yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan ddisgwylid y Mab Darogan. Fel sawl brudiwr arall, cefnogai Robin Ddu y Tuduriaid a phleidiodd achos Owain Tudur. Mewn un o gerddi Dafydd Llwyd ceir awgrym o anghydfod rhwng y ddau fardd ynglŷn â dehongli un o'r daroganau. Sut bynnag y bu am hynny, cafodd Robin Ddu enw fel dewin a cheir sawl traddodiad amdano.[1]
Canodd Robin Ddu i rai o deuluoedd mawr y gogledd, yn cynnwys teulu Griffith, y Penrhyn a theulu'r Gloddaeth. Yn Oes y Tywysogion, Gloddaeth oedd un o'r "trefi" canoloesol pwysicaf yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Yn ôl tradoddiad, sefydlwyd plasdy yno gan un Iorwerth Goch o'r Creuddyn, efallai yn y 13g. Roedd ei ddisgynnydd Gruffudd ap Rhys ap Gruffudd yn byw yno ym 1448. Yn y flwyddyn honno collodd saith o'i blant (pum mab a dwy ferch) i'r Pla. Canodd Robin Ddu farwnad deimladwy i'r saith ynghyd.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads