Roderic Bowen
gwleidydd Rhyddfrydol a chyfreithiwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Evan Roderic Bowen QC (6 Awst 1913 – 19 Gorffennaf 2001) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion o 1945 i 1966.
Remove ads
Cefndir
Ganwyd Roderic Bowen yn Aberteifi ar 6 Awst 1913, yn ail fab i Evan Bowen, gŵr busnes ac ynad heddwch a Margaret Ellen (né Twiss) ei wraig. Derbyniodd Bowen ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberteifi, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle derbyniodd radd LlB gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1933; a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle cafodd BA gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1935 ac MA ym 1940. Ar ôl ei astudiaethau coleg hyfforddodd fel bargyfreithiwr gan gael ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1937.
Bu farw yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf 2001. Roedd yn ddibriod.[1]
Remove ads
Gyrfa gyfreithiol
Wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr aeth Bowen i weithio mewn siambr yng Nghaerdydd gan arbenigo ym maes Cyfraith Cyflogaeth.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Bowen fel capten yng ngwasanaeth cyfreithiol y fyddin o 1940 hyd 1946 ar staff yr Adfocad Cyffredinol.
Gasanaethodd fel Cofiadur Sir Gaerfyrddin o 1950 i 1953, Merthyr Tudful 1953 i 1960, Abertawe 1960 i 1964 a Chaerdydd 1964 i 1967 ac fel cadeirydd Llysoedd Chwarterol Sir Drefaldwyn o 1959 hyd 1971. Cafodd ei godi'n Gwnsler y Brenin (KC) ym 1952, ond gan i'r Brenin farw ychydig ar ôl ei ddyrchafiad, bu'n Gwnsler y Frenhines (QC) am weddill ei yrfa.
Hyd 1965, pan gafodd ei ddyrchafu yn un o is-lefarwyr Tŷ'r Cyffredin, bu'n brif gwnsler Cylchdaith Llysoedd Caer a Chymru [2]
Remove ads
Gyrfa wleidyddol
Etholwyd Bowen ar ei ymgais cyntaf i gyrraedd Senedd San Steffan yn etholiad cyffredinol 1945, yn olynydd i Syr David Owen Evans, a fu farw ym 1945 ychydig yn brin o'r angen am isetholiad.
Er i weddill Prydain rhoi dirlithriad i'r achos Lafur yn yr etholiad, arhosodd Ceredigion yn driw i'r achos Rhyddfrydol, a bu Bowen yn llwyddiannus mewn pum etholiad rhwng 1945 hyd ei drechu ym 1966.
Ym 1955 daeth Bowen yn arweinydd y Blaid Seneddol Gymreig, grŵp seneddol a oedd yn cynnwys yr holl aelodau o etholaethau yng Nghymru.
Pan ymddiswyddodd Clement Davies o arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol ym 1956 fe safodd Bowen, yn aflwyddiannus, i'w olynu gan golli i Jo Grimond.
Bu farw llefarydd Tŷ'r Cyffredin Syr Harry Hylton-Foster ym 1965 ac fe ddyrchafwyd ei ddirpwy Horace King i'w olynu gan greu'r angen i benodi dirpwy lefarydd newydd. Pe bai aelod Llafur wedi ei benodi bydda'r blaid honno yn colli ei fwyafrif bregus gan orfodi Etholiad Cyffredinol; dymuniad Harold Wilson, y Brif Weinidog, oedd parau i lywodraethu fel y gallai galw etholiad ar adeg oedd yn fwy ffafriol i ragolygon etholiadol ei blaid. Er mwyn ceisio gorfodi etholiad gwrthododd y Ceidwadwyr i gynnig ymgeisydd ar gyfer y swydd. Dechreuodd Jo Grimond paratoi cytundeb clymblaid i geisio ennill mantais i'r Rhyddfrydwyr allan o'r sefyllfa. Yn y pen draw bu ddim angen clymblaid nac etholiad gan i Roderic Bowen cynnig ei hun am y swydd. Trwy i Bowen achub croen y Llywodraeth Lafur gohiriwyd dyddiad yr etholiad hyd i Wilson dewis mynd i'r wlad o'i wirfodd ym 1966. Enillodd Llafur yr etholiad gan gipio bron i gant o seddi newydd; un o'r seddi hynny oedd sedd Bowen yng Ngheredigion.[3]
Adroddiad Bowen ar gam drin carcharorion yn Aden
Rhwng 1963 a 1967 bu achosion o derfysg yn Aden, un o diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd (rhan o'r Iemen bellach). Asgwrn y gynnen oedd be ddylid digwydd i borthladd Aden wrth i diriogaethau Arabaidd Prydain symud at annibyniaeth, gyda rhai yn dymuno creu Gweriniaeth De'r Iemen ac eraill am greu un wladwriaeth yn cwmpasu'r cyfan o Arabia. Roedd y ddwy garfan yn ymladd yn erbyn ei gilydd a'r ddwy hefyd yn ymosod ar luoedd Prydain. Cafodd nifer o'r terfysgwyr eu carcharu yng Ngharchar Mansoura gan luoedd Prydain. Yn ôl adroddiadau a daeth trwy law Amnest Rhyngwladol roedd y carcharorion yn cael eu cam drin, eu holi gan ddefnyddio dulliau dirboenus a'u harteithio. Gofynnodd George Brown, yr Ysgrifennydd Tramor, i Bowen ymchwilio i'r honiadau.
Cyhoeddwyd adroddiad Bowen ym mis Tachwedd 1966. Canfyddiad Bowen oedd bod sail i'r cwynion ond eu bod wedi eu gorliwio, ac fe gynigiodd nifer o awgrymiadau er mwyn sicrhau nad oeddent yn digwydd eto.[4]
Remove ads
Pwyllgor Bowen ar Arwyddion Dwyieithog

Dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ymgyrch i gael arwyddion ffyrdd dwyieithog ym mis Ionawr 1969. Wedi dwy flynedd o ymgyrchu, gydag aelodau'r Gymdeithas yn peintio ac yn difrodi arwyddion uniaith Saesneg, ac yn derbyn dirwyon a charchar, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'n sefydlu comisiwn dan gadeiryddiaeth Roderic Bowen i ymchwilio i'r mater.
Ym 1972 cyhoeddwyd adroddiad y comisiwn, Bilingual traffic signs - Arwyddion ffyrdd dwyieithog, yn argymell darparu arwyddion ffyrdd dwyieithog.[5]
Remove ads
Gwasanaeth cyhoeddus tu allan i'r Llys a'r Senedd
Ar ôl ymadael a'r senedd penodwyd Bowen yn Gomisiynydd Yswiriant Gwladol ar gyfer Cymru, swydd y bu ynddi tan 1986
Roedd Bowen yn fynychwr rheolaidd o'r Eisteddfod a chafodd ei wneud yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988
Roedd yn ddyn o argyhoeddiad crefyddol dwfn ac roedd yn flaenor yn yr Eglwys Bresbyteraidd.
Bu'n llywydd Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan 1977-1992 ac yn aelod o gyrff llywodraethol Prifysgol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Remove ads
Gweler hefyd
- Cyfraniad Roderic Bowen ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn Hansard Archifwyd 2014-08-01 yn y Peiriant Wayback
- Llun olew ar ganfas o Roderic Bowen gan Daphne Todd 1992 ar BBC Your Paintings ( y gwreiddiol yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan)
- Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog: Report of the Committee of Inquiry Under the Chairmanship of Roderic Bowen. H.M. Stationery Office, 1972
- Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972 ytwll.com 19.2.2012
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
