Rodney Dangerfield

From Wikipedia, the free encyclopedia

Rodney Dangerfield
Remove ads

Digrifwr, actor, ysgrifennwr a cynhyrchydd o'r Unol Daleithiau oedd Rodney Dangerfield (22 Tachwedd 1921 - 5 Hydref 2004). Mae Rodney yn enwog am ei ymadrodd bachog "I don't get no respect" ac am ei gomedi a oedd yn seiliedig a'r un thema. Mae hefyd enwog am ei rannau yn y ffilmiau Caddyshack, Back To School ac Easy Money.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Caiff Rodney (enw bedydd; Jacon Cohen) ei eni yn Ynys-hir ym mhentref Babylon, Efrog Newydd i deulu Iddewig. Pan oedd yn glaslanc, roedd yn ysgrifennu am ddigrifwyr eraill ac yn 1940 (yn 19 mlwydd oed) dechreuodd berfformio ar y llwyfan gyda'r llysenw Jack Roy; mabwysiadodd yr enw Jack Roy yn gyfreithlon o'r ennyd hynny. Yn gynnar yn y '60au cymerodd Rodney ei enw llwyfan o gowboi analluog o'r sioe radio Jack Benny. Am gellwair, byddai Rodney weithiau yn dweud mai Percival Sweetwater oedd ei enw go iawn.

Roedd Rodney yn briod i Joyce Indig rhwng 1949 a 1970 a chawsant fab, Brian, a merch, Melanie, gyda'i gilydd. O 1993 tan ei farwolaeth, roedd Rodney yn briod i Joan Child. Roedd Rodney hefyd yn ffrind agos i'r digrifwr Sam Kinison.

Thumb
Bedd Rodney

Aeth Rodney i'r UCLA Medical Center yng Nghaliffornia ar Ebrill 8, 2003 am lawdriniaeth ar ei ymennydd. Pwrpas y llawdriniaeth oedd i wellhau cylchrediad gwaed Rodney er mwyn paratoi am lawdriniaeth ar falfiau ei galon yn Awst y flwyddyn ganlynol. Wrth fynd i mewn i'r ysbyty gofynnodd newyddiadurwr pryd y byddai Rodney allan. Ymatebodd y digrifwr: "If all goes well, about a week. If not, about an hour and a half." Cafodd Rodney ei ail lawdriniaeth ar Awst 24, 2004 ond, wythnosau ar ôl y llawdriniath, cyhoeddodd yr ysbyty fod Rodney mewn hunglwyf dwfn. Bu farw Rodney ar Hydref 5 o gymhlethdod o'i lawdriniaeth calon. Cafodd Rodney ei gladdu yn Westwood Village Memorial Park Cemetery yn Los Angeles. Yn ystod yr angladd cafodd y gair "respect" ei addurno yn yr awyr gan awyren.

Yn 2004 cafodd hunangofiant Rodney eu cyhoeddi, It's Not Easy Bein' Me: A Lifetime of No Respect but Plenty of Sex and Drugs (ISBN 0-06-621107-7). Enw gwreiddiol y llyfr oedd My Love Affair With Marijuana.

Remove ads

Ffilmiau

Thumb
Un o ffilmiau mwyaf enwog Rodney

Ar ôl marwolaeth

  • Three 'S' a Crowd (2005) - cafodd ei ffilmio yn 2003
  • Angels with Angles (2005) - cafodd ei ffilmio yn 2003
  • The Onion Movie (2008) - cafodd ei ffilmio yn 2003
Remove ads

Gwaith Teledu

  • The Tonight Show Starring Johnny Carson (ymddangosiadau aml o 1962 ymlaen)
  • The Dean Martin Show (ymddangosiad cyntaf yn 1965; perfformiwr cyson rhwng 1972–1973)
  • Benny and Barney: Las Vegas Undercover (1977)
  • The Rodney Dangerfield Show: It's Not Easy Bein' Me (1982)
  • Rodney Dangerfield: I Can't Take It No More (1983)
  • Rodney Dangerfield: It's Not Easy Bein' Me (1986)
  • Rodney Dangerfield: Nothin' Goes Right (1988)
  • Where's Rodney (1990)
  • Rodney Dangerfield's The Really Big Show (1991)
  • Rodney Dangerfield: It's Lonely at the Top (1992)
  • In Living Color (1993)
  • The Simpsons (1996) (llais mab Mr. Burns, Larry Burns yn yr episod "Burns, Baby Burns")
  • Suddenly Susan (1996)
  • Home Improvement (1997)
  • Rodney Dangerfield's 75th Birthday Toast (1997)
  • Dr. Katz, Professional Therapist (1997) (llais)
  • The Electric Piper (2003) (llais)
  • Phil of the Future (2004) (llais)
  • Still Standing (2004)
  • Rodney (2004) - (cafodd ei rhyddhau'n fuan ar ôl ei farwolaeth )
  • George Lopez (2004) - (cafodd ei rhyddhau'n fuan ar ôl ei farwolaeth )
Remove ads

Disgyddiaeth

  • What's in a Name? (1966)
  • The Loser (1977)
  • I Don't Get No Respect (1980)
  • No Respect (1981)
  • Rappin' Rodney (1983)
  • La Contessa (1995)
  • Romeo Rodney (2005)
  • 20th Century Masters - The Millennium Collection: The Best of Rodney Dangerfield (2005)
  • Greatest Bits (2008)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads