Angladd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Angladd
Remove ads

Seremoni er mwyn dathlu, sancteiddio neu gofio bywyd person sydd wedi marw yw angladd (weithiau cynhebrwng). Mae traddodiadau angladdol yn amrywio yn seiliedig ar gredoau ac arferion diwylliannau gwahanol wledydd er mwyn cofio eu meirw, o'r hyn a wneir i'r corff i'r amryw gofadeiladau, gweddïau a'r defodau a wneir er côf amdanynt.

Thumb
Angladd y Pab John Paul II
Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...

Mae defodau angladdol mor hen â diwylliant dynol ei hun, yn rhagddyddio Homo sapiens modern, i o leiaf 300,000 o flynyddoedd yn ôl.[1][2] Er enghraifft, yn yr ogof Shanidar yn Irac, Ogof Bontnewydd ger Llanelwy yng Nghymru a hefyd yn y Dwyrain Agos,[2] darganfyddwyd sgerbydau Neanderthal gyda haen nodweddiadol o baill blodau.[1] Dehonglir hyn fod y Neanderthaliaid yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth,[1][2] er nad yw'r dystiolaeth yn ddiamheuol; er ei fod yn ymddangos fod y meirw wedi cael eu claddu'n fwriadol, mae'r bosib fod y blodau wedi cyrraedd y bedd gan gnofilod yn tyllu.

Remove ads

Canu

Yng Nghymru mae'n arferiad canu emynau lleddf, ac ymhlith y mwyaf poblogaidd mae:[3]

  • Ar fôr tymhestlog teithio’r wyf
  • Arglwydd, gad im dawel orffwys
  • Cyduned seintiau daear lawr
  • Dal fi’n agos at yr Iesu
  • Mae ’nghyfeillion adre’n myned
  • Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu
  • Mae’n hyfryd meddwl ambell dro
  • Mi glywaf dyner lais
  • Nac wyled teulu Duw
  • Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads