Roger Federer
chwaraewr tenis o'r Swistir From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Chwaraewr tenis o'r Swistir, yw Roger Federer (/ˈɹɑ.dʒər ˈfɛ.dər.ər/) (ganwyd 8 Awst, 1981). Cred llawer y gall fod y chwaraewr gorau erioed.[1][2][3][4][5]
Mae wedi ennill 20 teitl Camp Lawn sengl, 6 teitl Cwpan y Meistri Tenis, a 28 o deitlau Cyfres y Meistri ATP. Yn 2004, ef oedd y cyntaf ers Mats Wilander yn 1988 i ennill y pedwar twrnamaint sengl Camp Lawn i ddynion yn yr un flwyddyn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Wimbledon, Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau a Pencampwriaeth Agored Ffrainc. Yn 2006, ailadroddodd y gamp hon, a'r unig ddyn erioed i ailadrodd y gamp yma a'r dyn cyntaf yn yr oes agored i ennill o leiaf deg pencampwriaeth sengl dair blynedd yn ddilynol (2004 i 2006).[6] Ef hefyd yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill teitlau senglau Wimbledon a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau dair mlynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Yn 2007, pan enillodd Federer ei drydedd teitl Pencampwriaeth Agored Awstralia, daeth yn unig chwaraewr gwrywaidd i ennill tri thrnamaint Camp Lawn ar wahân tair gwaith.
Mae Federer wedi dal safle uchaf chwaraewyr dethol y byd ers 2 Chwefror, 2004, ac yn dal y record am y mwyaf o wythnosau dilynol fel y chwaraewr gwrywol gyda'r safle uchaf.[7] Ar 2 Ebrill, 2007, cafodd ei enwi fel Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn am drydedd dro dilynol, sef record. Ar 8 Gorffennaf, 2012, enillodd Wimbledon am y saithfed tro, ac felly daeth i ddal record hafal â Pete Sampras.
Remove ads
Bywyd personol
Cafodd Federer ei eni yn Basel,[8] yn fab i Robert Federer o Berneck a Lynette Federer (née Durand), o Dde Affrica. Priododd y chwaraewr tenis Miroslava Vavrinec yn 2009. Mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads