San Francisco

sir yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

San Francisco
Remove ads

Dinas a sir yng Nghaliffornia yn Unol Daleithiau America yw San Francisco (Dinas a Sir San Francisco). Dyma yw'r bedweredd ddinas mwyaf poblog yng Nghaliffornia a'r drydedd ddinas ar ddeg mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau, gyda 744,230 o bobl yn byw yn y ddinas a 7,533,384 o bobl yn byw yn Ardal Bae San Francisco. San Francisco yw'r ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth fwyaf yn y dalaith a'r ddinas gyda dwysedd ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Lleolir y ddinas ar ben pellaf penrhyn San Francisco, gyda'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin iddi a Bae San Francisco i'r gogledd a'r dwyrain.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Ym 1776, sefydlodd y Sbaenwyr amddiffynfa wrth y Golden Gate a chenhadaeth a enwyd ar gyfer Ffransis o Assisi. Yn sgîl y Rhuthr am Aur ym 1849, aeth y ddinas trwy gyfnod o dŵf cyflym, a drawsnewidiodd y ddinas nes ei bod y ddinas fwyaf ar yr Arfordir Orllewinol ar y pryd. Ym 1906, cafodd San Francisco ei tharo gan ddaeargryn a thân a chafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd a rhan helaeth o'r ddinas ei dinistrio. Ail-adeiladwyd y ddinas yn gyflym, gan gynnal Arddangosfa Ryngwladol Panama-Pasiffig naw mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, San Francisco oedd y man ffarwelio ar gyfer nifer o filwyr. Pan ddaeth y rhyfel i ben, arweiniodd y don o filwyr yn dychwelyd, mewnfudiad enfawr, agweddau rhyddfrydol, a ffactorau eraill at yr Haf o Gariad a'r mudiad hawliau hoyw, gan gadarnhau statws San Francisco fel canolfan rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau.

Erbyn heddiw, mae San Francisco yn ganolfan ryngwladol o ran y byd ariannol, cludiant a diwylliant. Mae'r ddinas hefyd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i dwristiaid sy'n enwog am ei niwl hafaidd, ei bryniau serth niferus, ei chymysgedd o bensaernïaeth Fictoraidd a modern, ei thirnodau bydenwog fel Pont Golden Gate, ei cherbydau ceblau a Thref Tsieina.

Remove ads

Daearyddiaeth

Thumb
Penrhyn San Fransisco

Lleolir San Francisco ar arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau, ar ddiwedd Penrhyn San Francisco, ac mae'n cynnwys rhannau helaeth o'r Cefnfor Tawel a Bae San Francisco o fewn ei ffiniau. Mae sawl ynys, Ynys Alcatraz, Treasure Island, a'r Ynys Yerba Buena gyferbyn, a rhannau bychain o ynys Alameda, Ynys y Garreg Goch, ac Ynys yr Angylion i gyd yn rhan o'r ddinas. Yn fras, mae'r prif dir o fewn ffiniau'r ddinas yn cynnwys "sgwâr saith milltir gyda saith milltir," yn ôl y trigolion lleol, er mewn gwirioedd mae arwynebedd y ddinas, gan gynnwys y dŵr yn 232 milltir sgwâr (600 km2).

Mae San Francisco yn enwog am ei bryniau. Ceir yno dros 50 o fryniau o fewn ffiniau'r ddinas. Enwyd rhai cymdogaethau ar ôl y bryn lle maent wedi eu lleoli, gan gynnwys Nob Hill, Pacific Heights, a Russian Hill. Yn agos i ganolbwynt ddaearyddol y ddinas, i'r de-orllewin o ardal "downtown", ceir nifer o fryniau llai poblog. Mae Twin Peaks, sy'n bâr o fryniau yn un o fannau uchaf y ddinas, yn fan poblogaidd i weld y ddinas. Mae bryn mwyaf San Francisco, Mount Davidson, yn 925 troedfedd (282 m) o uchder ac ar ei ben mae yna groes 103 troedfedd (31 m) o uchder, a adeiladwyd ym 1934. Dominyddir yr ardal hon hefyd gan Dŵr Sutro, tŵr darlledu radio a theledu coch a gwyn.

Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

Pobl o San Francisco

  • Levi Strauss (1829-1902), dyn busnes
  • Robert Frost (1874-1963), bardd
  • Alice B. Toklas (1877-1967), awdures a ffrind Gertrude Stein
  • Mel Blanc (1908-1989), actor a chomediwr
  • Clint Eastwood (g. 1930), actor, cyfarwyddwr a gwleidydd
  • Jerry Garcia (1942-1995), cerddor
  • Courtney Love (g. 1964), cerddores

Dolenni allanol


Oriel

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads