Croes

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mae croes yn siâp geometrig sy'n cynnwys dwy linell neu far unionsgwar i'w gilydd, gan rannu un neu ddau o'r llinellau mewn hanner. Gan amlaf, rhed y llinellau'n fertigol neu'n llorweddol; os ydynt yn rhedeg ar letraws, defnyddir y term technegol sawtyr i'w disgrifio.

Mae'r groes yn un o symbolau mwyaf hynafol y ddynoliaeth, ac fe'i defnyddir gan nifer o grefyddau, megis Cristnogaeth. Caiff ei defnyddio'n aml fel cynrychioliad o raniadau'r byd i mewn i bedair elfen (neu'r pwyntiau prifol), neu weithiau fel undod o'r cysyniadau o ddwyfoldeb, y llinell fertigol, a'r byd, y llinell llorweddol.

Remove ads

Ar faneri

Gwelir croesau ar nifer o faneri, gan gynnwys pob gwlad yn Sgandinafia, a nifer o genhedloedd yn Hemisffer y De, sy'n ymgorffori'r Croes y De. Ers y 17g, mae baner y Swistir wedi arddangos croes hafalochrog mewn sgwâr (yr unig wladwriaeth sofren sydd â baner sgwâr heblaw am Ddinas y Fatican); seiliwyd logo'r Groes Goch ar faner y Swistir.

Baneri gwladwriaethau sofren sydd â chroesau arnynt

Detholiad o faneri eraill sydd â chroesau arnynt

Remove ads

Dolenni allanol

Ffeithiau sydyn
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads