Marc
efengylydd a sant yng Nghristnogaeth From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sant Marc (Hebraeg: מרקוס; Groeg: Μάρκος; fl. yn y ganrif 1af OC) yw awdur tybiedig Yr Efengyl yn ôl Marc. Roedd yn gyfaill i Sant Pedr ac yn gydymaith i Paul yr Apostol a Barnabas ar daith genhadol gyntaf Paul.
Dethlir Gŵyl Sant Marc ar 25 Ebrill, y dyddiad y'i lladdwyd. Yn ôl traddodiad yn yr Eglwys Goptaidd sylfaenodd Marc yr eglwys yn Alecsandria, ac felly ef yw sylfaenydd Cristnogaeth yn yr Affrig. Roedd yn dwyn y teitl Esgob Alecsandria ac felly yn ragflaenydd i Babau Alecsandria, y penaethiad ar yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Ei symbol yw y llew.
Enwir nifer o eglwysi ar ôl Sant Marc; un o'r enwocaf yw Basilica San Marco, eglwys gadeiriol Fenis yn yr Eidal.
|
Remove ads
Eglwysi cysegredig i Farc yng Nghymru
- Eglwys Sant Marc, Brithdir, Gwynedd
- Eglwys Sant Marc, Casnewydd
- Eglwys Sant Marc, Cei Connah, Sir y Fflint
- Eglwys Sant Marc, Gwenlli, Ceredigion
- Eglwys Sant Marc, Parc Caia, Wrecsam
- Eglwys Sant Marc, Ysfa, Abertawe
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads




