Santes Gwladys
Santes Geltaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Santes o'r 6g oedd Gwladus ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Fe'i magwyd yng Ngarthmadrun, Powys.
Remove ads
Priodas a phlant
Priododd â Gwynllyw Filwr, teyrn Gwynllŵg (ardal rhwng afon Rhymni ac afon Wysg yng Ngwent). Bu Gwynllyw yn rhyfelgar a chreulon, ac yn ymosod ar ei gymdogion gan dwyn eu eiddo. Fel un o ferched Brycheiniog bu ganddi yr hawl i dewis ei gŵr, a priododd hi yng Ngarth Madrun, ond bu rhai o'i theulu yn anfodlon oherwydd enw drwg Gwynllyw.[2] (Hwn, mae'n debyg sydd wedi arwain at y chwedl fod Gwynllyw wedi cipio Gwladus a'i gorfodi i'w briodi)[3] Cawsant pedwar mab (yn cynnwys Cadog, un o'r saint gwrywaidd mwyaf adnabyddus) a merch Maches.
Remove ads
Troedigaeth Gwynllyw
Bu Gwladus yn ymdrechu am gyfnod maeth i troi Gwynllyw yn Gristion. Ar ôl i Gwladus, ac nes ymlaen ei phlant hefyd, gweddïo yn daer am flynyddoedd daeth Gwynllyw yn Gristion.[2] Ar ôl ei dröedigaeth, ymgartrefodd y ddau ger Casnewydd. Arferent yndrochi yn noethlymun yn ffynnon Gwladus sydd yn awr yng Ngerddi plas Tredegar. Adeiladwyd baddondy dros y safle yn 1719 a gelwir y ffynnon heddiw yn "Ffynnon yr Arglwyddes" Dros amser ychwanegodd at eu hanes trwy honni eu bod hwy wedi ymdrochi yn afon Wysg, haf a gaeaf, gan gerdded dros filltir i'r afon yn noethlymun. Penderfynodd Gwladus a Gwynllyw gwahanu ac aeth y ddau i sefydlu cymunedau Cristnogol ar wahân.
Gwylmabsant: 29 Mawrth.[4]

Remove ads
Capel Gwladys
Ar ôl iddynt gwahanu aeth Gwladus i Bencarn a sefydlodd cymuned Cristnogol neu llan yno. Wedyn sefydlodd "Capel Gwladus" ger Gelli-gaer, lle ceir "Capel Gwladys" a lle cafwyd hyd i'w charreg fedd, gyda chroes Geltaidd arni. Saif Capel Gwladys (ST12499929) oddeutu 3 milltir (4.5 km) ar hyd y ffordd Rufeinig, filltir o Fargod.[5][6] I'r Oesoedd Canol mae'r seiliau'n perthyn a gosodwyd wal fodern i ddangos eu hamlinell; hyd yma ni chafwyd hyd i olion cyn yr Oesoedd Canol, ar wahân i'r garreg fedd a symudwyd i Eglwys Sant Cadog, Gelli-gaer. Ceir croes Geltaidd fodern oddi mewn i'r waliau i ddangos safle'r allor a cheir hefyd garreg fodern gyda'r geiriau: "Capel Gwladys circa 450AD".
Sefydlodd nifer o eglwysi wedi cysegru i Gwladus a Gwynllyw yng Ngwent ond dros y canrifoedd gollwngodd yr enw Gwladus oddi wrth rhai ohonynt. Bu farw Gwladus yn gynnar yn y chweched canrif.[3]
Gweler hefyd
- Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun Santesau Celtaidd 388-680
- Coedwig Gwladys
- Sgwd Gwladys
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads