Sardinia

ynys a rhanbarth yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia

Sardinia
Remove ads

Yr ail fwyaf o'r ynysoedd yn y Môr Canoldir a rhanbarth yr Eidal yw Sardinia (Sardeg: Sardigna [sarˈdinja], Eidaleg: Sardegna [sarˈdeɲɲa]). Mae ganddi statws rhanbarth ymreolaethol o fewn yr Eidal. Cagliari yw'r brifddinas.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Thumb
Baner Sardinia

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,639,362.[1]

Mae gan yr ynys arwynebedd o 24,090 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif ger arfordir gorllewinol yr Eidal, i'r de o Ynys Cors.

Thumb
Lleoliad Sardinia yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Thumb
Taleithiau Sardinia,
("Sud Sardegna" = De Sardinia)

Tua 1500 CC, galwyd yr ynys yn Hyknusa (Lladin: "Ichnusa") gan y Mycenaeaid, efallai yn golygu ynys (nusa) yr Hyksos, oedd newydd gael eu gyrru o'r Aifft. Cafodd ei henw presennol o enw'r Shardana, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan Ramesses III tua 1180 CC).

Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth. Cydnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahân. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw Veneto. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw Cagliari. Mae 'Parth Glas' yn ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Cofnodir Sardinia ymhlith yr uchaf (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra). Gwelwyd yma ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd uchel iawn.[2]

Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid, Sardeg.

Thumb
Arwydd yn gwahardd ymsmygu, mewn Sardeg ac Eidaleg
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads