Scientoleg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Corff o gredoau ac ymarferion cysylltiedig a grewyd gan yr awdur ffuglen wyddonol Americanaidd L. Ron Hubbard yw Scientoleg[1] neu Seientoleg.[2] Y prif sefydliad sy'n hyrwyddo Scientoleg yw Eglwys Scientoleg, mudiad hierarchaidd a sefydlwyd gan Hubbard, a gelwir grwpiau annibynnol sy'n defnyddio deunyddiau Hubbard yn y Parth Rhydd (Free Zone). Datblygodd Hubbard ddysgeidiaeth Scientoleg ym 1952 i olynu ei system hunangymorth gynt, Dianetics. Yn hwyrach disgrifiodd Hubbard Scientoleg fel "athroniaeth grefyddol gymhwysol" a sail am grefydd newydd. Mae athrawiaeth Scientoleg yn cynnwys archwilio (auditing), athroniaeth o adferiad ysbrydol a "phuredigaeth", ac yn ymdrin â phynciau megis moeseg, addysg, a rheolaeth.

Mae Scientoleg wedi derbyn cryn feirniadaeth yn ystod ei hanes gan rai sy'n ei gweld fel cwlt yn hytrach na mudiad crefyddol ac am ymatebion yr Eglwys i'w beirniaid, a ddisgrifir yn ddiegwyddor gan rai.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads