Sgwâr Coch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sgwâr yn Moscfa yw Sgwâr Coch (Rwseg, Красная площадь, Krásnaya plóshchad’, a gaiff ei ystyried yn ganol dinas Mosgfa. Mae'n gwahanu'r Cremilin oddi wrth y faestref fasnachol, draddodiadol a elwir yn Kitai-gorod, lle ceir y priffyrdd a'r cysylltiadau trenau a bysiau mwyaf o'r ddinas.

Does a wnelo'r enw ddim oll â lliw'r adeiladau, neu Gomiwnyddiaeth gan mai gwyngalch oedd ar yr adeiladau yn draddodiadol, ac enwyd y sgwâr flynyddoedd cyn cysylltwyd y lliw coch gyda Chomiwnyddiaeth. Daw'r gair o'r Rwsieg "красная" (crasnaya), sef "coch" neu "brydferth", ac fe'i rhoddwyd i ddisgrifio rhan fechan o'r sgwâr rhwng Eglwys Gadeiriol Sant Basil a Thwr Spassky, un o dyrrau'r Cremlin.
Mae'r pared militaraidd yn cael ei gynnal yma'n flynyddol ar Galan Mai.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads