Shaun Edwards

From Wikipedia, the free encyclopedia

Shaun Edwards
Remove ads

Cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair o Loegr sy’n awr yn hyfforddwr rygbi’r undeb yw Shaun Edwards (ganed 18 Hydref 1966). Mae’n hyfforddwr amddiffynnol rhan amser i dîm rygbi'r undeb Cenedlaethol Cymru.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Yn enedigol o Wigan, bu’n chwarae i dîm Wigan rhwng 1983 a 1996. Enillodd wyth pencampwriaeth gyda Wigan, a’r gwpan naw gwaith, y ddau yn record. Chwaraeodd dros Loegr yng Nghwpan y Byd yn 1992 a 1995, ac enillodd 36 cap dros dîm rygbi’r gynghrair Prydain.

Gadawodd Wigan i chwarae am dymor i’r London Broncos, ac am gyfnod byr i Bradford Bulls. Yn 2001, ymunodd â staff tîm rygbi’r undeb London Wasps fel hyfforddwr y cefnwyr, gan ddod yn brif hyfforddwr yn 2005 wedi i Warren Gatland ddychwelyd i Seland Newydd. Enillodd Wasps y bencampwriaeth dair gwaith yn y cyfnod yma.

Pan apwyntiwyd Warren Gatland yn hyfforddwr Cymru cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, apwyntiwyd Edwards yn hyfforddwr amddiffynnol rhan-amser, gan gadw ei swydd gyda'r Wasps. Iddo ef y rhoddir llawer o’r clod am y gwelliant mawr ym mherfformiad amddiffynnol Cymru yn y bencampwriaeth yn 2008; dim ond dwy gais a sgoriwyd yn eu herbyn yn y pum gêm.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads