Sinn Féin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Sinn Féin yn enw sydd wedi ei ddefnyddio gan nifer o bleidiau cenedlaethol Gwyddelig, bob un yn hawlio bod yn olynydd i'r blaid wreiddiol a ffurfiwyd gan Arthur Griffith yn 1905. Mae'r enw'n golygu "Ni'n hunain" mewn Gwyddeleg.


Daeth llwyddiant etholiadol i'r blaid yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Pan ryddhawyd y rhai oedd yn weddill o arweinwyr y gwrthryfel yn 1917, daethant yn amlwg yn Sinn Féin, gyda Éamon de Valera yn cymryd lle Griffith fel arweinydd.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918, enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r Blaid Seneddol Wyddelig fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn hytrach, ar 21 Ionawr 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.
Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Yr arweinydd presennol yw Mary Lou McDonald. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, gyda 26 sedd allan o 90. Mae gan y blaid 7 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Yn etholiad cyffredinol 2020 Gweriniaeth Iwerddon, enillodd Sinn Féin 37 sedd allan o 160 yn Dáil Éireann, gan dderbyn y nifer a'r ganran uchaf o bleidleisiau Dewis Cyntaf. Dyma ogwydd o 10.7% a chynyddiad o seddi 2016 o 10. Gwelwyd hyn fel canlyniad syfrdanol oherwydd nid oedd enillydd clir gyda Sinn Féin, Fianna Fáil a Fine Gael yn dod yn agos iawn ac felly yn arwain at drafodaethau clymbleidiol.[1][2][3] Nid oedd Sinn Féin yn llwyddiannus o fod yn rhan o glymblaid ond yn hytrach daeth yn wrthblaid yr Dáil am y tro cyntaf ers dechreuad y ddeddfwrfa. Yn ôl arweinydd y Blaid Mary Lou McDonald roedd y blaid yn cael ei gwthio allan o'r trafodaethau clymblaid fel rhan o “glymblaid gyfleus”.[4]
Yn Senedd Ewrop, mae Sinn Féin yn aelod o'r grŵp seneddol Ewropeaidd y Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig.
Remove ads
Arweinwyr
- Edward Martyn (1905-1908)
- John Sweetman (1908)
- Arthur Griffith (1908-1917)
- Eamon de Valera (1917-26)
- Yn 1923, ffurfiodd rhan sylweddol o'r aelodaeth Cumann na nGaedheal
- Yn 1926, ymddiswyddodd de Valera o Sinn Féin a sefydlu plaid Fianna Fáil
- John Joseph O'Kelly (Sceilg) (1926-1931)
- Brian O'Higgins (1931-1933)
- Y Tad Michael O'Flanagan (1933-1935)
- Cathal Ó Murchadha (1935-1937)
- Margaret Buckley (1937-1950)
- Pádraig Mac Lógáin (1950-1953)
- Tomás Ó Dubhghaill (1953-1954)
- Pádraig Mac Lógáin (1954-1962)
- Tomás Mac Giolla (1962-1970)
- Yn 1970, ymrannodd yn ddwy blaid, y ddawy'n hawlio mai hwy oedd y gwir Sinn Féin
- Ruairí Ó Brádaigh (1970-1983)
- Yn 1986, gadawodd Ó Brádaigh a sefydlodd Sinn Féin Gweriniaethol.
- Gerry Adams (1983-2018)
- Mary Lou McDonald (2018-presennol)



Remove ads
Gweler hefyd
Canlyniadau etholiad cyffredinol
Gogledd Iwerddon
Etholiadau deddfwrfa ddatganoledig
Etholiadau San Steffan
Gweriniaeth Iwerddon
Etholiadau Dáil Éireann
Remove ads
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads