Gweriniaeth Iwerddon

gwladwriaeth yn Iwerddon From Wikipedia, the free encyclopedia

Gweriniaeth Iwerddon
Remove ads

Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn "Uachtarán" neu Arlywydd, ond y "Taoiseach" ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw "Gweriniaeth Iwerddon" i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir. Cyn cyhoeddi'r Weriniaeth yn gyfasoddiadol, galwyd y wladwriaeth yn Gwladwriaeth Rydd Iwerddon.

Remove ads

Daearyddiaeth

Thumb
Golygfa'r Arglwyddes yn Swydd Ciarraí (Kerry)

Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Carrauntoohil (Gwyddeleg: Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.

Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.

Remove ads

Hanes

Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd "Gweriniaeth Iwerddon". Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.

Cyfansoddiad 1937

Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae Cyfansoddiad Iwerddon mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.

Deddf Gweriniaeth Iwerddon

Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw "Deddf Gweriniaeth Iwerddon" a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.

Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon

Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw "y Weriniaeth Wyddelig" (Saesneg: The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.

Defnyddir yr enw "Gweriniaeth Iwerddon" (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.

Remove ads

Siroedd

Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.

Map o'r siroedd

Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.

Thumb Gweriniaeth Iwerddon
  1. Áth Cliath – Dublin (Dulyn)*
  2. Cill Mhantáin – Wicklow
  3. Loch Garman – Wexford
  4. Ceatharlach – Carlow
  5. Cill Dara – Kildare
  6. An Mhí – Meath
  7. Lú – Louth
  8. Muineachán – Monaghan
  9. An Cabhán – Cavan
  10. An Longfort – Longford
  11. An Iarmhí – Westmeath
  12. Uíbh Fhailí – Offaly
  13. Laois – Laois
  14. Cill Chainnigh – Kilkenny
  15. Port Láirge – Waterford
  16. Corcaigh – Cork
  17. Ciarraí – Kerry
  18. Luimneach – Limerick
  19. Tiobraid Árann – Tipperary
  20. An Clár – Clare
  21. Gaillimh – Galway
  22. Maigh Eo – Mayo
  23. Ros Comáin – Roscommon
  24. Sligeach – Sligo
  25. Liatroim – Leitrim
  26. Dún na nGall – Donegal
Gogledd Iwerddon
  1. Fear Manach – Fermanagh
  2. Tír Eoghain – Tyrone
  3. Doire – Derry/Londonderry
  4. Aontroim – Antrim
  5. An Dún – Down
  6. Ard Mhacha – Armagh

Rhestr yn nhrefn yr wyddor

Rhagor o wybodaeth Swydd Enw Gwyddeleg, Swydd Enw Saesneg ...

Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas / County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall / County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin / County of Dún Laoghaire-Rathdown.

Remove ads

Iaith a diwylliant

Economi

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads