Sir Gaernarfon

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sir Gaernarfon
Remove ads

Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Sir Gaernarfon. Ffurfiwyd y sir ym 1284 trwy uno cantrefi Arfon, Arllechwedd a Llŷn. Defnyddiwyd Sir Weinyddol Caernarfon ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Heddiw, caiff tiriogaeth y sir ei gweinyddu gan gynghorau Gwynedd a Sir Conwy. Cofrestrwyd baner swyddogol ar gyfer y sir yn 2012.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Bu peth newid yn ffiniau'r sir yn 1895, pan symudwyd y rhannau hynny o blwyf Beddgelert a arferai fod yn Sir Feirionnydd, sef y tir i'r de a'r dwyrain o Afon Gwynant/Afon Glaslyn i fod yn rhan o Sir Gaernarfon. Roedd plwyf Llysfaen a threfgordd Eirias ym mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos yn ynys fach o Sir Gaernarfon o fewn ffiniau Sir Ddinbych hyd 1922, pan unwyd hwy â gweddill Sir Ddinbych.

Dros y blynyddoedd bu rhai yn ceisio dadlau bod Ynys Enlli yn rhan o Sir Benfro ond ni chafwyd unrhyw gyfiawnhad dros y fath honiad, a dichon mai ymdrech imosgoi talu trethi'r sir oedd y tu ôl i'r awgrym.

Thumb
Sir Gaernarfon yng Nghymru
Remove ads

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads