Steroid

From Wikipedia, the free encyclopedia

Steroid
Remove ads

Cyfansoddyn organig yw steroid ac mae iddo bedwar cylch sydd wedi eu trefnu mewn cyfluniad moleciwlaidd penodol. Ymhlith yr enghreifftiau amlwg y mae colesterol lipid dietegol, yr hormonau rhyw estradiol a thestosteron:10-19 a'r cyffur gwrthlidiol decsamethason.[1][2] Ceir dwy brif swyddogaeth fiolegol i steroidau: mae rhai steroidau (megis colesterol) yn chwarae rhan allweddol mewn cellbilennau ac yn newid hylifedd pilenni, gweithreda llawer o steroidau hefyd fel moleciwlau signalau sy'n actifadu derbynyddion hormonau steroid.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
System cylchoedd steroid: Dangosir system cylchoedd rhiant steroid ABCD (fframwaith hydrocarbon) gyda llythrennu (cylchoedd) a rhifo (atomau) wedi eu cymeradwyo gan IUPAC.:1785f

Mae strwythur craidd steroid yn cynnwys dau ar bymtheg o atomau carbon sydd wedi'u bondio mewn pedwar cylch "ymdoddedig": tri chylch yn cynnwys chwe aelod seiclohecsan (cylchoedd A, B a C yn y darlun) ac un cylch o bum aelod cyclopentane (cylch D). Mae steroidau'n amrywio yn ôl grŵp swyddogaethol, nodwedd sydd ynghlwm a'r strwythur craidd uchod, ynghyd â chyflwr ocsidiad y cylchoedd. Math o steroid yw sterolau, ac maent yn cynnwys hydrocsyl yn safle tri'r darlun a deillia eu sgerbwd o cholestane.:1785f [3] Gallant hefyd amrywio'n sylweddol wedi newidiadau i strwythur y cylch (er enghraifft, holltau yn y cylchoedd sy'n cynhyrchu secosteroidau, fel fitamin D3).

Gellir canfod cannoedd o steroidau mewn planhigion, anifeiliaid a ffyngau. Mae'r holl steroidau yn cael eu cynhyrchu mewn celloedd o'r sterols lanosterol (anifeiliaid a ffyngau) neu cycloartenol (planhigion). Deillia lanosterol a cycloartenol o cylcheiddiad y sgwâr triterpene.[4][5]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads