Estrys

rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia

Estrys
Remove ads

Aderyn dihediad buandroed o urdd y Struthioniformes yw'r estrys (Struthio camelus), sy'n fwyaf y byd. Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram.[1] Mae ganddo wddf noeth hir a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.[1] Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.[2]

Ffeithiau sydyn Statws cadwraeth, Dosbarthiad gwyddonol ...

Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.[1] Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica.[1] Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai tacsonomyddion.[3]

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads