Neogen

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Cyfnod a system ddaearegol ydy Neogen (Saesneg: Neogene) a grewyd gan Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg (a dalfyrir i ICS) ar linell amser daearegol. Mae'r system hon (y Neogen) yn cychwyn 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yn dod i ben tua 2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Hwn ydy'r ail gyfnod yn yr Era Cenosoic (Cenozoic Era), mae'n dod ar ôl y cyfnod Paleogenaidd. Daw'r cyfnod chwarteraidd ar ei ôl yntau yn ei dro.

Rhagor o wybodaeth System, Cyfres ...

Mae'n cael ei rannu'n ddau israniad a elwir yn epoc: y Mïosen a'r Plïosen.

Mae'r Neogen yn rhychwantu 20 miliwn o flynyddoedd, a yn y cyfnod hwn gwelwyd mamaliaid ac adar yn parhau i esblygu i'r ffurfiau modern, fwy neu lai. Gwelwyd hefyd darddiad yr Hominidae cynnar yn Affrica, a esblygodd ymhen hir a hwyr yn Homo sapiens (neu fod dynol).

Cyfnod Neogen
23.03–2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Pg
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 21.5 Cyfaint %[1]
(108 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 280 rhan / miliwn[2]
(1 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 14 °C[3]
(0 °C uwch na'r lefel heddiw)


Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads