Sue Roderick
actores a aned yn 1955 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actores a chantores o Gymraes yw Sue Roderick (ganwyd 1955).[1] Mae'n adnabyddus am chwarae Lucy Cartwright yn y ffilm gwlt Twin Town, Cassie Morris ym Mhobol y Cwm a dwy gymeriad yn Coronation Street.[2]
Bywyd cynnar
Ganwyd Susan Broderick ym Mangor a'i magu ym Mhorthmadog.[1] Roedd yn canu ers yn ferch ifanc a bu'n perfformio gyda Treflyn Jones yn y ddeuawd 'Treflyn a Siwsan'. Perfformiodd ar Disc a Dawn pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Yn 14 oed aeth am glyweliad gyda Wilbert Lloyd Roberts yng Nghwmni Theatr Cymru. Roedd yn rhy ifanc i ddechrau gweithio ond cafodd gynnig gwersi canu gyda Betty, gwraig Wilbert. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth yn ôl i weithio gyda Cwmni Theatr Cymru.
Remove ads
Gyrfa
Yn 1987 perfformiodd ar y rhaglen Codi Pais (HTV Cymru ar gyfer S4C), rhaglen adloniant yn cynnwys sgetsus a chaneuon. Roedd y rhaglen yn torri tir newydd ar gyfer merched mewn comedi drwy gyfuno doniau Sue, Siw Hughes, Gillian Elisa ac Eirlys Parri.[3]
Roedd yn un o brif actorion y ffilm Hedd Wyn yn chwarae Lizzie Roberts ac ymddangosodd yn Twin Town yn chwarae Lucy Cartwright. Yn y 1990au ymddangosodd yn y ddrama Y Palmant Aur cyn ymuno â chast Pobol y Cwm i chwarae Cassie Morris, oedd yn berchen y Deri Arms gyda'i gŵr Teg. Wedi gadael yr opera sebon yn 2003, ail-ymunodd â Pobol y Cwm ar ddiwedd 2018 gyda stori am wasgaru llwch Mrs Mac.[4]
Rhwng 2016 a 2018 bu'n chwarae yr athrawes Llywela yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref.
Remove ads
Bywyd personol
Roedd yn briod gyda Quentin Annis ac mae ganddynt ferch, yr actores, dramodydd a chyfarwyddwraig Mêlisa Annis. Roedd hefyd yn briod a'r cyfarwyddwr Paul Turner.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads