Suzanne Packer

actores a aned yn 1962 From Wikipedia, the free encyclopedia

Suzanne Packer
Remove ads

Actores o Gymraes yw Suzanne Packer (ganwyd Suzanne Jackson; 20 Tachwedd 1962)[1] sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae rôl Tess Bateman yn y gyfres deledu Casualty o fis Medi 2003 hyd at Awst 2015. Dychwelodd i'r sioe fel gwestai ar gyfer penodau'r 30fed pen-blwydd. Mae hi bellach yn dysgu mewn nifer o ysgolion yng Nghymru.[2][3]

Packer yn cyflwyno Gwobrau Dewi Sant ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Remove ads

Bywyd cynnar

Mae Suzanne yn ferch i rieni a ymfudodd o Jamaica i'r Fenni, ac roedd ei mam yn gweithio fel nyrs. Hi yw chwaer hynaf yr athletwr Olympaidd Colin Jackson.[4] Tra'n astudio yn Ysgol Uwchradd Llanedeyrn yng Nghaerdydd, roedd eisoes yn dangos diddordeb mewn actio, gan chwarae'r rhan flaen mewn dramâu ysgol, gan gynnwys Oklahoma a The King and I .

Gyrfa

Mynychodd Suzanne Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru cyn ennill BA mewn theatr a drama ym Mhrifysgol Warwick. Yna hyfforddodd yn Academi Ddrama Webber Douglas yn Llundain.[5]

Cychwynnodd ar yrfa actio yn gynnar yn y 1990au, ac roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Josie, gwraig Mick Johnson yn opera sebon Brookside ar Channel 4. Yna, astudiodd am radd mewn addysgu yng Ngholeg Goldsmiths, ac ar ôl graddio yn 1996, dysgodd ddrama yn Llundain.

Tra'n actio, cyfarfu â phriododd yr actor Americanaidd Jesse Newman. Symudodd y cwpl i Ddinas Efrog Newydd, lle bu'n dysgu drama ac actio, ac yn 2003 ganwyd eu mab Paris. Ar ôl yr enedigaeth, dechreuodd eu perthynas chwalu, a chytunodd y cwpl symud yn ôl i'r DU, ond penderfynodd Newman aros yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach. Ysgarodd y cwpl y flwyddyn ganlynol.[4]

Wedi cyrraedd nôl yng Nghaerdydd gyda'i mab tair mis oed, cafodd glyweliad ar gyfer drama BBC Casualty. Tair wythnos yn ddiweddarach cychwynodd weithio fel Sister Tess Bateman, gan ymddangos yn gyntaf ar y sgrin o fis Medi 2003. Ym mis Tachwedd 2006, gadawodd Martina Laird, oedd yn chwarae rhan Comfort, y gyfres, oedd yn golygu mai Suzanne oedd yr ail aelod hiraf o'r cast.[2]

Ar 22 Awst 2015, gadawodd Casualty ar ôl chwarae cymeriad Tess am bron i 12 mlynedd i ddod yn aelod o gast Stella a Doctors .

Ymddangosodd Suzanne gyda'i brawd Colin ar y gyfres gyntaf o Pointless Celebrities ar 6 Gorffennaf 2011. Aethont allan yn y rownd gyntaf.[6]

Ar 19 Mawrth 2017, ymddangosodd yn y ddrama drosedd Vera ar ITV fel 'ranger' Sophia yn y bennod "Natural Selection".

Ar 23 Chwefror 2018, ymddangosodd yn y gyfres ddiweddaraf o Death in Paradise.

Ar 18 Mawrth 2018, chwaraeodd rhan fach mewn pennod o Hold the Sunset.

Ar 4 Tachwedd 2018, chwaraeodd Eve Cicero yn mhennod o Doctor Who , "The Tsuranga Conundrum".[7]

Remove ads

Bywyd personol

Mae Suzanne wedi ysgaru o'r actor Americanaidd Jesse Newman ac yn 2006 roedd yn byw yng Nghaerdydd gyda'u mab Paris.[4]

Ffilmyddiaeth

Teledu

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads