Svalbard

archipelago Norwyaidd yn y Cefnfor Arctig From Wikipedia, the free encyclopedia

Svalbard
Remove ads

Ynysfor yn yr Arctig sy'n perthyn i Norwy yw Svalbard. Cyfeirir ato'n aml, yn anghywir, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Yn ôl amcangyfrif 2019 roedd gan Svalbard boblogaeth o 2,939.[1] Longyearbyen yw'r tref fwyaf a phrifddinas yr ynysoedd.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Y copa uchaf yw Newtontoppen (1,717 medr). Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Ŵydd wyran (Branta leucopsis) a'r Ŵydd droedbinc sy'n nythu yma.

Thumb
Lleoliad Svalbard
Thumb
Ynysoedd Svalbard
Remove ads

Lluniau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads