Swlŵeg
iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Swlŵeg (isiZulu yn Swlŵeg) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Swlŵiaid). Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.
Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlŵeg sy'n cyfateb yn fras i q /ǃ/, c /ǀ/ a x /ǂ/. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlŵeg gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp ieithoedd Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlŵeg yn Ne Affrica.
Remove ads
Creoliaith Gauteng
Ceir tafodiaith neu greoliaith sy'n seiliedig ar ramadeg Swlŵeg yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaith o'r fath fel Tsotsitaal.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

