Mosambîc

From Wikipedia, the free encyclopedia

Mosambîc
Remove ads

Mae Mosambîc (yn swyddogol: Gweriniaeth Mosambîc), yn wlad sydd wedi'i lleoli yn Ne-ddwyrain Affrica, ac sy'n ffinio â Chefnfor India i'r dwyrain, Tansania i'r gogledd, Malawi a Sambia i'r gogledd-orllewin, Simbabwe i'r gorllewin, ac Eswatini a De Affrica i'r de a'r de-orllewin. Mae'r wladwriaeth sofran hon wedi'i gwahanu oddi wrth y Comoros, Mayotte, a Madagascar gan Sianel Mosambîc i'r dwyrain. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Maputo sydd a phoblogaeth o 1,133,200 (1 Gorffennaf 2023)[1] ac mae gan Mosambîc gyfan boblogaeth o 29,668,834 (2017)[2].

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Rhwng y 7g a'r 11g, datblygodd cyfres o drefi porthladdol Swahili yn yr ardal, a gyfrannodd at ddatblygiad diwylliant a thafodiaith Swahili. Yn y cyfnod canoloesol hwyr, byddai masnachwyr o Somalia, Ethiopia, yr Aifft, Arabia, Persia ac India yn ymweld â'r trefi hyn. Nododd mordaith Vasco da Gama ym 1498 ddyfodiad y Portiwgaliaid, a ddechreuodd y broses o wladychu ryw saith mlynedd wedyn. Ar ôl dros bedair canrif o reolaeth Portiwgalaidd, enillodd Mosambîc ei hannibyniaeth ym 1975, gan ddod yn Weriniaeth Pobl Mosambîc yn fuan wedi hynny. Ar ôl dim ond dwy flynedd o annibyniaeth, disgynnodd y wlad i ryfel cartref dwys a hir a barhaodd o 1977 i 1992. Ym 1994, cynhaliodd Mosambîc ei hetholiad aml-bleidiol cyntaf ac ers hynny mae wedi parhau i fod yn weriniaeth arlywyddol gymharol sefydlog, er ei bod yn dal i wynebu peth gwrthryfela yn y rhanbarthau pellaf o'r brifddinas, lle mae Islamiaeth ar ei chryfaf.

Mae gan Mosambîc adnoddau naturiol cyfoethog a helaeth, er gwaethaf y ffaith bod economi'r wlad yn seiliedig yn bennaf ar bysgodfeydd llwyddiannus— molwsg, cramenogion ac echinodermau yn bennaf—ac amaethyddiaeth gyda diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu cemegol, alwminiwm ac olew. Mae'r sector twristiaeth yn ehangu'n flynyddol. Ers 2001, mae twf CMC Mosambîc wedi cynyddu, ond ers 2014/15, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn gwariant y cartrefi. Gwelir cynnydd sydyn yn yr anghydraddoldeb economaidd.[3] Mae'r genedl yn parhau i fod yn un o'r gwledydd tlotaf a mwyaf tanddatblygedig yn y byd, gan raddio'n isel o ran CMC y pen, datblygiad dynol, anghydraddoldeb a disgwyliad oes cyfartalog.

Mae poblogaeth y wlad yn cynnwys mwy na 2,000 o grwpiau ethnig, yn ôl amcangyfrifon 2024, sy'n gynnydd o 2.96% yn y boblogaeth o 2023, yn cynnwys pobl Bantu yn bennaf. Fodd bynnag, yr unig iaith swyddogol ym Mosambîc yw Portiwgaleg, a siaredir mewn ardaloedd trefol fel iaith gyntaf neu ail iaith, ac yn gyffredinol fel lingua franca rhwng Mosambîciaid iau sydd â mynediad at addysg ffurfiol. Ymhlith yr ieithoedd lleol pwysicaf mae Tsonga, Makhuwa, Sena, Chichewa, a Swahili. Mae Glottolog yn rhestru 46 o ieithoedd a siaredir yn y wlad,[4] ac mae un ohonynt yn iaith arwyddion (Iaith Arwyddo Mosambîc/ Língua de sinais de Moçambique ). Y grefydd fwyaf ym Mosambîc yw Cristnogaeth, gyda lleiafrifoedd sylweddol yn dilyn Islam a chrefyddau traddodiadol Affricanaidd.

Remove ads

Geirdarddiad

Cafodd y wlad ei henwi'n Moçambique gan y Portiwgaliaid ar ôl Ynys Mozambique, gair sy'n deillio o Mussa Bin Bique, Musa Al Big, Mossa Al Bique, Mussa Ben Mbiki neu Mussa Ibn Malik, masnachwr Arabaidd a ymwelodd â'r ynys yn gyntaf ac a fu'n byw yno'n ddiweddarach ac a oedd yn dal yn fyw pan alwodd Vasco da Gama ar yr ynys ym 1498.[5] Prifddinas y drefedigaeth Bortiwgalaidd oedd y drefedigaeth ar yr ynys tan 1898, pan gafodd ei symud i'r de i Lourenço Marques (sydd bellach ym Maputo).

Thumb
Dhow o Mosambîc
Remove ads

Hanes

Mudo Bantw

Ymfudodd pobloedd sy'n siarad Bantw i Mosambîc mor gynnar â'r 4g CC.[6] Credir rhwng y ganrif gyntaf a'r 5g OC, bod tonnau o fudo o'r gorllewin a'r gogledd wedi mynd trwy ddyffryn Afon Zambezi ac yna'n raddol i mewn i lwyfandir ac ardaloedd arfordirol De Affrica. Fe wnaethant sefydlu cymunedau amaethyddol yn seiliedig ar fugeilio gwartheg. Daethant â'r dechnoleg ar gyfer toddi[7] a thrin haearn gyda nhw.

Arfordir Swahili

O ddiwedd y mileniwm cyntaf OC, ymestynnodd rhwydweithiau masnach helaeth drwy Gefnfor India mor belled a phorthladd hynafol Chibuene.[8] Gan ddechrau yn y 9g, datblygodd masnach Cefnfor India yn fawr a gwelwyd nifer o drefi porthladdol ar hyd arfordir Dwyrain Affrica cyfan, gan gynnwys Mosambîc heddiw. Roedd y rhain yn annibynol ac yn hunangynhaliol ond eto'n rhanu'r diwylliant Swahili. Yn aml, mabwysiadwyd Islamiaeth gan arweinwyr y cymunedau. Ym Mozambique, roedd Sofala, Angoche, ac Ynys Mosambîc yn bwerau rhanbarthol erbyn y 15g.[9]

Roedd y trefi hyn yn masnachu â masnachwyr o fewndir Affrica a'r byd ehangach drwy Gefnfor India. Roedd llwybrau carafanau aur ac ifori yn arbennig o bwysig. Darparodd taleithiau mewndirol fel Teyrnas Simbabwe a Theyrnas Mutapa yr aur a'r ifori, gan eu cyfnewid wedyn i fyny'r arfordir i ddinasoedd porthladdol mwy fel Kilwa a Mombasa.

Mosambîc Portiwgaleg (1498-1975)

Thumb
Manylyn o Ynys Mozambique, cyn brifddinas yng Ngogledd Mosambîc ac yn amlwg yn hanes y wlad
Thumb
Capel Nossa Senhora de Baluarte

Enwir y wlad ar ôll Ynys Mozambique, sef ynys gwrel fechan ger Bae Mossuril ar arfordir Nacala yng ngogledd Mozambique, a archwiliwyd gyntaf gan Ewropeaid ddiwedd y 15g.

Pan gyrhaeddodd fforwyr Portiwgalaidd Mosambîc ym 1498, roedd aneddiadau masnachu (Arabaidd) wedi bodoli ar hyd arfordir ac ynysoedd cyfagos ers sawl canrif.[10] O tua 1500, disodlwyd y swyddi masnachu a chaerau milwrol, Portiwgalaidd llawer o'r gymuned Arabaidd (o ran masnach a safleoedd milwrol), gan ddod yn borthladdoedd galw rheolaidd ar y llwybr môr.[11] Dyma'r camau cyntaf yn yr hyn a fyddai'n dod yn broses o wladychu gan y Portiwgaliaid.[11][12]

Nododd taith Vasco da Gama o amgylch Penrhyn Gobaith Da ym 1498 fynediad y Portiwgaliaid i fasnach, gwleidyddiaeth a chymdeithas y rhanbarth. Enillodd y Portiwgaliaid reolaeth dros Ynys Mosambîc a dinas Sofala ddechrau'r 16g, ac erbyn y 1530au, treiddiodd grwpiau bach o fasnachwyr a chwilwyr Portiwgalaidd yn chwilio am aur gan weithio eu ffordd i fewn i berfedd y wlad. Yma fe wnaethon nhw sefydlu garsiynau a swyddi masnachu yn Sena a Tete ar y Zambezi a cheisio rheoli'r fasnach aur yn llwyr.[13]

Rhyfel Annibyniaeth Mosambîc (1964–1975)

Thumb
Milwyr Portiwgalaidd yn ystod Rhyfel Trefedigaethol Portiwgal, gyda'u FN FAL, AR-10 a H&K G3

Wrth i syniadau comiwnyddol a gwrth-drefedigaethol ledaenu ledled Affrica, sefydlwyd llawer o fudiadau gwleidyddol cudd i gefnogi annibyniaeth Mosambîc. Honnodd y mudiadau hyn, mai ychydig o sylw a roddwyd i integreiddio llwythau brodorol Mosambîc a datblygiad ei chymunedau. Yn ôl y datganiadau gerila swyddogol, effeithiodd hyn ar fwyafrif y boblogaeth frodorol a ddioddefodd wahaniaethu enbyd a noddwyd gan y wladwriaeth Bortiwgalaidd a phwysau cymdeithasol enfawr. Fel ymateb i'r mudiad gerila, cychwynnodd llywodraeth Portiwgal o'r 1960au ac yn bennaf ddechrau'r 1970au newidiadau graddol gyda datblygiadau economaidd-gymdeithasol newydd a pholisïau egalitaraidd, tecach.[14]

Dechreuodd y Ffrynt dros Ryddhau Mosambîc (Frente de Libertação de Moçambique; FRELIMO) ymgyrch gerila yn erbyn rheolaeth Portiwgal ym Medi 1964. Daeth y gwrthdaro hwn—ynghyd â'r ddau arall a gychwynnwyd eisoes yn Angola a Gini Portiwgalaidd —yn rhan o'r hyn a elwir yn Rhyfel Trefedigaethol Portiwgalaidd (1961–1974). O safbwynt milwrol, roedd y fyddin reolaidd Portiwgalaidd yn dal rheolaeth dynn dros y dinasoedd a'r trefi mawr tra bu i'r lluoedd gerila danseilio eu grym mewn ardaloedd gwledig a llwythol yn y gogledd a'r gorllewin. Fel rhan o'u hymateb i FRELIMO, dechreuodd llywodraeth Portiwgal roi mwy o sylw i greu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad cymdeithasol a thwf economaidd. [15]

Annibyniaeth (1975)

Cymerodd FRELIMO reolaeth dros y diriogaeth ar ôl deng mlynedd o ryfela ysbeidiol. Ar yr un pryd trodd Portiwgal tuag at democratiaeth ei hun, ar ôl cwymp y gyfundrefn awdurdodaidd Estado Novo yn Chwyldro'r Carnasiwn ym Ebrill 1974 a'r coup aflwyddiannus ar 25 Tachwedd 1975. O fewn blwyddyn, roedd y rhan fwyaf o'r 250,000 o Bortiwgaliaid ym Mosambîc wedi gadael y wlad—rhai wedi'u halltudio gan lywodraeth y wlad lled-annibynnol, a rhai wedi gadael y wlad i osgoi dial posibl gan y llywodraeth newydd. Yn y diwedd, daeth Mosambîc yn annibynnol oddi wrth Portiwgal ar 25 Mehefin 1975. Roedd cyfraith wedi'i phasio o blaid FRELIMO, yn gorchymyn i'r Portiwgaliaid adael y wlad o fewn 24 awr gyda dim ond 20 cilogram (44 lb) o fagiau y person. Dychwelodd y rhan fwyaf ohonynt i Bortiwgal heb geiniog goch y delyn.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads