Swydd Huntingdon

sir hanesyddol Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia

Swydd Huntingdon
Remove ads

Sir hanesyddol yn nwyrain Lloegr oedd Swydd Huntingdon (Saesneg: Huntingdonshire). Roedd ganddi swyddogaeth weinyddol o'r oesoedd canol hyd at 1974. Roedd Swydd Northampton i'r gogledd-orllewin, Swydd Bedford i'r de-orllewin, a Swydd Gaergrawnt i'r dwyrain. Roedd yn sir weinyddol rhwng 1889 a 1965, pan gafodd ei gyfuno â'r Soke of Peterborough i ffurfio'r uned weinyddol byrhoedlog Swydd Huntingdon a Peterborough. Yn 1974 daeth yn ardal an-fetropolitan o fewn Swydd Gaergrawnt. (Gweler Huntingdonshire.) Y dref sirol hanesyddol oedd Huntingdon.

Thumb
Lleoliad Swydd Huntingdon ym Mhrydain
Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads