Sycharth

castell yn Llansilin From Wikipedia, the free encyclopedia

Sycharth
Remove ads

Pentref bychan yng nghymuned Llangedwyn, Powys, Cymru, yw Sycharth. Saif tua 7 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt. Mae'r pentref yn gorwedd yn nyffryn Afon Cynllaith, llednant o Afon Tanat.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]

Remove ads

Hanes

Gwelir olion llys Owain Glyn Dŵr i'r gogledd o'r pentref.[3] Anfarwolwyd y lle gan gywydd[4] enwog Iolo Goch sy'n cynnwys y llinellau:

Anfynych iawn fu yno
weled na chlicied na chlo,
na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
ni bydd eisiau budd oseb,
na gwall, na newyn, na gwarth,
na syched fyth yn Sycharth.

Roedd ganddo hefyd gastell tebyg yng Nglyndyfrdwy ger Corwen.

Perchnogaeth

Yn 2023, ar ol i ddeiseb gyrraedd dros 10,000 o lofnodion, mi fydd Senedd Cymru yn trafod yr alwad i Sycharth ddod o dan berchnogaeth cyhoeddus.[5]


Oriel

Thumb
Yr olygfa o Lys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth; gellir gweld baner y Ddraig Goch yn y pellter

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads