Sydney Pollack

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Lafayette yn 1934 From Wikipedia, the free encyclopedia

Sydney Pollack
Remove ads

Roedd Sydney Irwin Pollack (1 Gorffennaf 193426 Mai 2008) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd ac actor ffilmiau o'r Unol Daleithiau. Cafodd ei eni yn Lafayette, Indiana i fewnfudwyr Rwsiaidd-Iddewig. Astudiodd gyda Sanford Meisner yn y Neighborhood Playhouse yn Ninas Efrog Newydd, lle dysgodd actio yn ddiweddarach. Dechreuodd gyfarwyddo rhaglenni teledu yn ystod y 1960au cyn iddo symud ymlaen i gyfarwyddo ffilmiau.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Cyfarwyddodd Pollack dros 21 o ffilmiau a 10 rhaglen deledu ac actiodd mewn dros 30 ffilm neu sioe. Cynhyrchodd dros 44 ffilm. Mae rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Jeremiah Johnson (1972), The Way We Were (1973), Three Days of the Condor (1975) a Absence of Malice (1981). Enillodd ei ffilm Out of Africa (1985) Wobr yr Academi iddo am ei waith cyfarwyddo a chynhyrchu. Fe'i enwebwyd am Oscar hefyd am y Cyfarwyddwr Gorau yn They Shoot Horses, Don't They? a Tootsie. Roedd ei ffilmiau mwyaf diweddar yn cynnwys Havana (1990), The Firm (1993), Sabrina (1995) a The Interpreter (2005).

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads