Indiana

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Indiana
Remove ads

Mae Indiana yn dalaith yng nghanolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ym masn Afon Mississippi. Mae'n praire anwastad yn bennaf, gyda llynnoedd rhewlifol yn y gogledd. Mae Afon Indiana yn llifo trwy'r dalaith hon i ymuno ag Afon Mississippi. Cafodd Indiana ei archwilio gan y Ffrancod yn yr 17g. Fe'i ildiwyd gan Ffrainc i Brydain Fawr yn 1763 a chan Brydain i'r Unol Daleithiau yn 1783. Ar ôl rhyfel yn erbyn y bobl brodorol (a amddifadwyd o'u tiroedd) yn 1794, gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth. Daeth yn dalaith yn 1816. Indianapolis yw'r brifddinas.

Thumb
Indiana yn yr Unol Daleithiau
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Remove ads

Siroedd

Ceir 92 o siroedd yn Indiana ac yn eu plith mae 'County Owen', a alwyd ar ôl y milwr Abraham Owen (milwr) (1769-1811). Hanodd ei hen, hen, hen daid a nain (sef Humphrey a Catherine Owen) o Nannau ger Dolgellau.[1]

Dinasoedd Indiana

1Indianapolis829,718
2Fort Wayne253,691
3Evansville117,429
4South Bend101,168
5Gary80,294

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads