Symbol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Endid, llun, gair ysgrifenedig, sain, neu farc arbennig yw symbol, sy'n cynrychioli rhywbeth arall drwy cysylltiad, tebygrwydd, neu gonfensiwn, yn arbennig gwrthrych materol a ddefnyddir i gynrychioli rhywbeth anweladwy. Mae symbolau'n dangos (neu'n gwasanaethu fel) a chynrychioli syniadau, cysyniadau, a haniaethau eraill. Er enghraifft, ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, mae octagon coch yn symbol sy'n trosglwyddo'r syniad penodedig (neu'r modd o) "STOPIO" neu "ATAL".
Defnyddir symbolau fel llaw fer i adnabod cemegau ac unedau mesur mewn modd niwtral o ran iaith.[1]
Esiampl yw'r symbolau a ddefnyddir ar fapiau i ddynodi llefydd o ddidordeb megis cleddyfau wedi croesi i farcio maes brwydr, a rhifolion i gynrychioli rhifau.[2]
Remove ads
Geirdarddiad
Daw'r gair "symbol" o'r Hen Ffrangeg, o Lladin, yn wreiddiol o'r iaith Groeg σύμβολον (sýmbolon). Y geiriau gwraidd yw συν- (syn-) sy'n golygu "cyd-" a βολή (bolē) "tafliad", sy'n rhoi'r ystyr "i daflu at ei gilydd" yn fras, yn llythrennol "cyd-ddigwyddiad" (zu-fall), hefyd "arwydd, tocyn neu cyfangiad". Mae'r dystiolaeth cynharaf o ddefnydd y gair iw gael yn Emyn Homeric i Hermes, pan mae Hermes yn ochneidio, ar weld y crwban, συμβολον ηδη μοι "symbolon [symbol/arwydd/rhagarwydd/cyfarfod/hap ddarganfyddiad?] o llawenydd i mi!" cyn ei droi i mewn i lyra.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
