Tŷ'r Sger

tŷ rhestredig Gradd I yng Nghorneli From Wikipedia, the free encyclopedia

Tŷ'r Sger
Remove ads

Plasdy hanesyddol yw Tŷ'r Sger (y cyfeirir ato fel Sker House yn Saesneg), a leolir ger Trwyn y Sger (Sker Point) ger Cynffig, rhwng Porthcawl a Margam yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel cartref Elizabeth Williams, "Y Ferch o'r Sger" (c.1747-1776).

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Dechreuodd Tŷ'r Sger fel ydlan a fferm yn perthyn i Urdd y Sistersiaid yn y 12g. Mae'r adeiladau cynnar hynny wedi diflannu'n gyfan gwbl bron. Codwyd y tŷ presennol yng nghyfnod y Tuduriaid fel cartref teuluol.

Aeth y tŷ yn adfail yn y 19g. Ar ôl blynyddoedd lawer o esgeulustod, cafodd ei gyhoeddi yn adeilad peryglus oherwydd ei gyflwr yn 1979. Ar 31 March 1999, dechreuwyd y gwaith o adfer y tŷ hanesyddol hwn. Cwblheuwyd y gwaith ym mis Gorffennaf 2003. Gwerthwyd y tŷ yn yr un flwyddyn ac mae'n eiddo preifat.

Cyfeirir at Dŷ'r Sger yn y nofel gan Isaac Hughes (Craigfryn), Y Ferch o'r Scer (1892). Mae ganddo ran amlwg yn y nofel gan R. D. Blackmore, The Maid of Sker, er nad oes gan y nofel honno ddim oll i'w wneud â hanes Elizabeth Williams.[1]

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • A. Leslie Evans, The Story of Sker House (1956)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads