Tab Hunter
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor, cyflwynydd teledu, canwr pop, cynhyrchydd ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd Tab Hunter (ganwyd Arthur Andrew Kelm; 11 Gorffennaf 1931 – 8 Gorffennaf 2018). Serennodd mewn mwy na 40 o ffilmiau a roedd yn seren Hollywood adnabyddus ac eilun yn y 1950au a'r 1960au, yn adnabyddus am ei ddelwedd syrffiwr penfelen Califforniaidd. Ar ei anterth roedd ganddo ei sioe deledu The Tab Hunter Show a recordiodd sengl llwyddiannus "Young Love".
Remove ads
Bywyd personol

Cyhoeddwyd hunanfywgraffiad Hunter, Tab Hunter Confidential: The Making of a Movie Star yn 2005, wedi ei gyd-ysgrifennu gyda Eddie Muller, ac aeth i restr y New York Times o lyfrau oedd yn gwerthu orau, fel gwnaeth y rhifyn clawr meddal yn 2007. Enwebwyd y llyfr am sawl gwobr ysgrifennu. Ail-ymddangosodd yn rhestr y New York Times am y trydydd tro ar 28 Mehefin 2015 yn ystod rhyddhau y ffilm a seiliwyd ar y llyfr.
Yn y llyfr, mae'r actor yn cydnabod ei fod yn hoyw, gan gadarnhau sïon oedd wedi cychwyn pan roedd ei yrfa ar ei anterth. Yn ôl William L. Hamilton o The New York Times, roedd adroddiadau manwl am garwriaethau honedig Hunter gyda'i ffrindiau agos Debbie Reynolds a Natalie Wood wedi eu creu yn llwyr gan adrannau cyhoeddusrwydd y stiwdios ffilm. Wrth i Wood a Hunter ddechrau carwriaeth enwog ond gwbl ffug, ac yn hyrwyddo ei heterorywioldeb ymddangosol wrth hyrwyddio eu ffilmiau, roedd gan bobl ar y tu fewn bennawd eu hunain ar gyfer yr eitem: "Natalie Wood and Tab Wouldn't."[1]
Daeth Hunter yn ddigon agos at Etchika Choureau, ei gyd-seren yn Lafayette Escadrille, a Joan Perry, gweddw Harry Cohn, i ystyried priodi, ond nid oedd yn credu y gallai gynnal priodas, a parhaodd yn ffrind platonaidd gyda'r ddau.
Yn ystod cyfnod stiwdio Hollywood, dywedodd Hunter fod bywyd yn anodd iddo, am ei fod yn byw dau fywyd ar y pryd. Roedd ganddo fywyd preifat, nad oedd yn trafod gyda unrhywun. Ac yna ei fywyd Hollywood, lle roedd yn ceisio dysgu ei grefft a llwyddo. Pwysleisiodd nad oedd y gair 'gay' yn bodoli bryd hynny ac os oedd unrhywun yn ei gwestiynau ar y mater, byddai'n mynd yn wallgo. Roedd yn gwadu ei rywioldeb yn llwyr a nid oedd yn gyffyrddus yng nghymdeithas Hollywood, heblaw am y broses waith.[2] Dywedodd yr actor fod gymaint yn cael ei ysgrifennu yn y wasg am ei rywioldeb, a'u bod yn reit greulon. Roedd gwylwyr ffilmiau eisiau cadw'r ddelwedd o'r bachgen drws nesaf, cowbois a chariadon golygus oedd e'n bortreadu.[1]

Cafodd Hunter berthynas hirdymor gyda'r actor Anthony Perkins a'r pencampwr sglefrio ffigwr Ronnie Robertson, cyn setlo gyda ei bartner am dros 35 mlynedd, y cynhyrchydd ffilm Allan Glaser.[3] Tra'n gwasanaethau yn llynges yr U.D.A. yn ystod Rhyfel Fietman, lladdwyd ei frawd Walter ar 28 Hydref 1965.
Magwyd Hunter yn ffydd Gatholig ei fam a fe barhaodd i ymarfer ei grefydd am rhan fwyaf o'i fywyd.[4][5][6] Bu farw ei fam yn 92 oed a fe'i claddwyd ym Mynwent Santa Barbara.
Derbyniodd Hunter seren ar yr 'Hollywood Walk of Fame' am ei gyfraniad i'r diwydiant cerddoriaeth.[7]
Yn 2007, cafodd Seren Golden Palm ei neilltuo iddo ar y 'Palm Springs Walk of Stars'.[8]
Marwolaeth
Bu farw Hunter o gymlethdodau thrombosis gwythïen ddofn (DVT) a achosodd ataliad ar y galon ar 8 Gorffennaf 2018, tridiau cyn ei ben-blwydd yn 87 oed.[9] Yn ôl ei bartner, Glaser, roedd marwolaeth Hunter yn sydyn ac annisgwyl.[10]
Remove ads
Disgyddiaeth a siartiau
Ffilmyddiaeth
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
