Tawakkol Karman

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tawakkol Karman
Remove ads

Newyddiadurwraig a gwleidydd o Iemen ac ymgyrchydd dros hawliau dynol yw Tawakkol Abdel-Salam Karman (Arabeg: توكل عبد السلام خالد كرمان Tawakkul ‘Abd us-Salām Karmān; hefyd Tawakul,[1] Tawakel;[2][3][4] ganwyd 7 Chwefror 1979).[4] Hi oedd wyneb gyhoeddus Chwyldro Iemen (2011–12), ac fe'i elwir yn "y Ferch Haearn" a "Mam y Chwyldro" gan ei chydwladwyr.[5][6] Derbyniodd Karman Wobr Heddwch Nobel yn 2011, ynghyd ag Ellen Johnson Sirleaf a Leymah Gbowee.[7] Hi yw'r Iemeniad cyntaf, y fenyw Arabaidd cyntaf,[8][9] a'r ail fenyw Fwslimaidd i ennill Gwobr Nobel, a'r unigolyn ieuangaf i ennill y Wobr Heddwch ac eithriad Malala Yousafzai.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Cyd-sefydlodd y garfan "Newyddiadurwragedd Heb Gadwyni" yn 2005.[1] Daeth Karman i sylw'r cyhoedd yn Iemen trwy ei newyddiaduraeth a'i hymgyrch dros wasanaeth newyddion ffôn symudol a gafodd ei wrthod trwydded yn 2007. Y flwyddyn honno, dechreuodd trefnu ac arwain protestiadau wythnosol o blaid ryddid y wasg.[1][10] Dan ei harweiniad, rhoddwyd cefnogaeth i'r "Chwyldro Jasmin" yn Nhiwnisia (Rhagfyr 2010–Ionawr 2011) a'r Gwanwyn Arabaidd. Gwrthwynebodd Ali Abdullah Saleh, Arlywydd Iemen, yn gyhoeddus.[11]

Yn ôl cebl diplomyddol a ddatgelwyd gan WikiLeaks, er i Karman lladd ar Sawdi Arabia yn gyhoeddus roedd hi hefyd yn trefnu cyfarfodydd dirgel â'r Sawdïaid i ymofyn am eu cefnogaeth. Hi wnaeth canmol Sawdi Arabia am gytundeb trawsnewid llywodraeth a chafodd ei ystyried gan nifer o ddiwygwyr fel brad yn erbyn y chwyldro. Yn ogystal, cyhuddodd Karman yr Arlywydd Abd Rabbuh Mansur Hadi o gefnogi'r Houthi ac Al Qaeda.[12]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads