Teilio Ewclidaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae teilio polygonau rheolaidd amgrwn yn y plân Ewclidaidd yn ffurf celf sy'n bodoli cyn hanes, ac yn faes o fewn geometreg Ewclidaidd. Cychwynwyd ei ystyried yn faes mathemateg gan Kepler yn ei Harmonices Mundi (Lladin am "Cynghanedd Bywyd") yn 1619.
![]() Teilio rheolaidd: un math o ochrau (arwynebau) rheolaidd |
![]() Teilio rhan-reolaidd neu 'deilio unffurf': un math o fertig, ond dau neu ragor o arwynebau gwahanol |
![]() Mae gan deilio k-unffurf sawl fertig (nifer = k) a dau neu fwy o ochrau rheolaidd. |
![]() Mae teilio nad yw'n ochr-i-ochr yn caniatau maint ochrau gwahanol. |
Mewn teilio Ewclidaidd ochr-wrth-ochr, ymyl-i-ymyl, mae'n rhaid i gyfanswm onglau mewnol y polygonau sy'n cwrdd ar fertig fod yn 360 gradd.
Remove ads
Teilio rheolaidd
Teilio rheolaidd
Teilio Archimedaidd, neu deilio unffurf, neu led-rheolaidd.[1]
Teilio k-unffurf
![]() gan ochrau, trionglau melyn, sgwariau coch. |
![]() gan lleoliadau 4-isohedral, 3 lliw'r trionglau |
Gellir dosbarthu teilio cyfnodol gan nifer orbidau'r fertigau (corneli), ymyl a theiliau. Os oes k orbid o fertigau, adnabyddir y teilio fel k-unffurf neu k-isogonal; os oes t orbid o deils, fe'u gelwir yn t-isohedral; ac os oes e orbid o ymylon, yna'n e-isotoxal.[2][3][4][5]
Gellir adnabod teilio k-unffurf gyda'r un fertig drwy'r system cymesuredd y grŵp papur wal.[6]
Eraill
Ar gyfer teilio Ewclidaidd ochr-wrth-ochr, ymyl-i-ymyl, mae'n rhaid i gyfanswm onglau mewnol y polygonau sy'n cwrdd ar fertig fod yn 360 gradd. Mae gan n-gon rheolaidd onglau mewnol gradd. Ceir 17 o bolygonau rheolaidd gwahanol, sydd a'u honglau mewnol yn adio i 360 gradd. Gelwir bob un o'r rhain yn 'rywogaeth' o fertig.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads