Thomas Dafydd
bardd gwlad ac emynydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd gwlad ac emynydd o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Dafydd (fl. 1765 - 1792).
Oes a gwaith
Roedd Thomas Dafydd yn frodor o blwyf Llanegwad yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei ddyddiad geni yn ansicr ac ychydig a wyddom amdano.[1]
Canai farwnadau yn ei sir enedigol. Cyhoeddodd 11 casgliad bach o emynau yn ystod ei oes, pump yn gyfres dan y teitl Taith y Pererin (gan ddynwared teitl llyfr enwog John Bunyan, Taith y Pererin), a chwech arall fel cyfrolau unigol. Roedd dipyn o fynd ar y casgliadau hyn yn Sir Gaerfyrddin yn oes y bardd, ond ni chenir ei emynau heddiw.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads