Thomas Phillips
meddyg a noddwr addysg From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Meddyg a noddwr addysg o Gymru oedd Thomas Phillips (1760 – 30 Mehefin 1851).[1] Sylfaenodd Coleg Llanymddyfri yn 1847.
Fe'i ganed yn Llundain, ond tardd teuluai'r o Landeglau, Sir Faesyfed a chafodd ei addysg yng Nghymru. Priododd Althea Edwards, merch y ficer Cusop, Swydd Henffordd. Cafodd gadair athro yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan. Wedi gwasnaethu yn y llynges, bu'n feddyg yn Kolkata a Botany Bay cyn symud i weithio fel llawfeddyg yn India yn 1802. Dychwelodd i Lundain yn 1817, a bu farw yno ar 31 Mehefin 1851.
Mae’n cael ei ystyried yn brif noddwr addysg Gymraeg yn y 1800au. Sefydlodd ysgoloriaethau yng Ngholeg Dewi Sant yn Llanbed, a thalu am gadair mewn gwyddoniaeth yno hefyd. Yn 1847, agorodd ysgol yn Llanymddyfri gan roi £140 y flwyddyn i gyflogi'r prifathro — gyda’r amod bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y gwersi.
Prynodd blanhigfa siwgr ar ynys Sant Vincent a'r Grenadinest am £40 000, a dychwelodd i Lundain, yn ddyn cyfoethog, ym 1817. Yn dilyn diddymu caethwasiaeth, dyfarnwyd £4,737 8s 6d iddo mewn iawndal am golli 167 o gaethweision.[2][3]
Bu farw yn 1851 a chladdwyd ef yn St Pancras, Llundain.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads