Tim Bevan

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tim Bevan
Remove ads

Cynhyrchydd ffilm sydd wedi ennill Gwobrau'r Academi ydy Tim Bevan, CBE (ganed 1958, Queenstown, Seland Newydd).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Sefydlodd y cwmni "Working Title Films" yn Llundain ar y cyd gyda Sarah Radclyffe yn ystod y 1980au. Mae'r ffilmiau lle gweithiodd Bevan fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Fargo, O Brother, Where Art Thou?, Captain Corelli's Mandolin, Love Actually, Notting Hill, Elizabeth, Bridget Jones's Diary, Atonement, a Frost/Nixon.

Ysgarodd Bevan o'i wraig gyntaf sef yr actores Seisnig Joely Richardson; mae ganddynt ferch, Daisy, a anwyd ym 1992. Mae ef bellach yn briod â Amy Gadney, ac mae ganddynt ferch Nell, ganwyd yn 2001 a mab Jago, a anwyd yn 2003. Tim Bevan yw cyd-gynhyrchydd y sioe gerdd Billy Elliot yn y West End.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads