Sioe gerdd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ffurf o adloniant yw sioe gerdd sy'n cyfuno cerddoriaeth, dawns ac weithiau'r iaith lafar. Perthyna'n agos i opera, ond yn gyffredinol bydd sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na cheir defnydd o sgwrs mewn opera. Ceir eithriadau er hynny.
Datblygodd sioeau cerdd cynnar allan o'r operetta. Bu Jacques Offenbach yn Ffrainc, Joseph Parry yng Nghymru a Gilbert a Sullivan yn Lloegr yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poblogrwydd yr operettas cynnar, datblygodd y sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth 'Broadway' yn Efrog Newydd, a'r 'West End' yn Llundain yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.
Mae Cymru hefyd wedi cyfrannu i fyd sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae Shân Cothi a Michael Ball. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn.
Remove ads
Rhestr sioeau cerdd gwreiddiol Gymraeg
1970au
- 1974 Nia Ben Aur - fe'i perfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974;
- 1975 Melltith ar y Nyth - geiriau gan Hywel Gwynfryn; cerddoriaeth gan Endaf Emlyn
1980au
- 1981 Y Mab Darogan gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1981 Cenedl Cilmeri gan Eleri Richards a Delyth Rees
- 1982 Y Cylch gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1983 Y Llew a'r Ddraig gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1983 Senghennydd gan Emyr Edwards ac Eirlys Gravelle
- 1985 Ceidwad y Gannwyll - geiriau gan Robin Llwyd ab Owain; cerddoriaeth gan Robat Arwyn a Sioned Williams; fe'i perfformiwyd ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1985
- 1985 Dan Oed gan Mei Jones a Gareth Glyn
- 1985 Y Bont gan Emyr Edwards ac Eirlys Gravelle
- 1987 Rhys a Meinir - Robin Llwyd ab Owain; perfformiwyd ym Mhafiliwn Corwen, Theatr John Ambrose, Rhuthun; unodd dau gôr cefnidrol: Côr Eifionnydd (Nan Jones) a Chôr Ieuenctid Rhuthun
- 1988 Pum Diwrnod o Ryddid gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1989 Jac Tŷ Isha gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn
1990au
- 1991 Myfi Yw' gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1992 Magdalen gan Cefin Roberts a Gareth Glyn
- 1992 Llwch yn ein Llygaid gan Eleri Richards a Delyth Rees
- 1995 O Docyn Brwyn i Ben Draw'r Byd [yn seiliedig ar waith Cynan] gan Glyn Roberts, Annette Bryn Parri a Paul Griffiths
- 1995 Mela gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1996 Dan Hwyl Wen [yn seiliedig ar waith J. Glyn Davies] gan Glyn Roberts, Annette Bryn Parri a Paul Griffiths
- 1996 Streic! gan Aled Lloyd Davies a Gareth Glyn
- 1996 Ysbrydoli gan Alwen Derbyshire, Meleri Roberts a Gwennant Pyrs
- 1996 Breuddwyd Roc-a-Rôl gan Cefin Roberts ac Einion Dafydd
- 1996 Cefin ac Awen gan Angharad Llwyd
- 1997 Er Mwyn Yfory - geiriau gan Penri Roberts; cerddoriaeth gan Robat Arwyn
- 1997 Heledd gan Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins
- 1997 Dan Gysgod y Graig gan Glyn Roberts, Annette Bryn Parri a Paul Griffiths
- 1998 Yn y Ffrâm gan Einion Dafydd a Paul Griffiths - Sioe Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Llŷn ac Eifionydd 1998
- 1998 Pedair Hunllef a Breuddwyd gan Cefin Roberts ac Einion Dafydd
2000au
- 2000 Ail Liwio'r Byd gan Gareth Glyn a Paul Griffiths - Sioe Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Bro Conwy 2000
- 2001 Adlais o'r Sêr - cerddoriaeth gan Robat Arwyn; geiriau gan nifer o feirdd, gan gynnwys Robin Llwyd ab Owain a sgwennodd y gân agoriadol Brenin y Sêr ac Yn Llygad y Llew.
- 2003 Pwy bia'r Gân? - sgript a geiriau caneuon gan Robin Llwyd ab Owain
- 2005 Ail Godi'r Llen gan Glyn Roberts, Annette Bryn Parri a Paul Griffiths
- 2009 Clymau gan Eilir Owen Griffiths a Ceri Elen
2010au
- 2022 Ysbrydnos gan Adam Wachter a Gareth Owen; fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad gan BBC Radio Cymru ar Nos Galan Gaeaf [1]
Remove ads
Rhestr sioeau cerdd Saesneg
- 1927 Show Boat - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Jerome Kern
- 1943 Oklahoma! - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Richard Rodgers
- 1980 Les Misérables - geiriau gan Alain Boublil; cerddoriaeth gan Claude-Michel Schönberg. Stori wreiddiol gan Victor Hugo
- 1975 A Chorus Line - geiriau gan Edward Kleban; cerddoriaeth gan Marvin Hamlisch. Llyfr gwreiddiol gan James Kirkwood, Jr. a Nicholas Dante
- 2003 Avenue Q - geiriau a'r cerddoriaeth gan Robert Lopez a Jeff Marx.
- 1993 Beauty and the Beast - geiriau gan Tim Rice a Howard Ashman; cerddoriaeth gan Alan Menken. Yn seiliedig ar ffilm Disney Beauty and the Beast.
- 2001 Legally Blonde - geiriau a'r gerddoriaeth gan Nell Benjamin ac Laurence O'Keefe. Yn seiliedig ar y ffilm Legally Blonde.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads