Tiziano Vecellio

arlunydd, drafftsmon, drafftsmon, gwneuthurwr printiau ac artist (1490-1576) From Wikipedia, the free encyclopedia

Tiziano Vecellio
Remove ads

Arlunydd o'r Eidal oedd Tiziano Vecellio (Almaeneg: Tizian, Ffrangeg: Titien, Saesneg: Titian; tua 148727 Awst 1576). Ystyrir ef yn un o arlunwyr pwysicaf y Dadeni.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Thumb
Bedd Titian yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis

Ganed Titian yn Pieve di Cadore, pentref yn y Dolomitau tua 190 km i'r gogledd o Fenis. Bu'n ddisgybl i Gentile Bellini ac yna i'w frawd, Giovanni. Dylanwad pwysig arall arno oedd Giorgione (tua 14771510).

Tua 1508, roedd Giorgione a Titian yn gyfrifol am waith ffresco ar y Fondaco dei Tedeschi yn Fenis. Yn 1511, arluniodd Titian waith ffresco yn y Scuola del Santo yn Padova. Yn 1516, daeth yn arlunydd swyddogol Gweriniaeth Fenis.

Yn 1532, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ef yn uchelwr. Yn y blynyddoedd 1530–40 bu'n gweithio yn Urbino. Yn 154546 bu yn Rhufain, ac yn 15481551 yn llys yr ymerawdwr yn Augsburg. Wedi marwolaeth Siarl, bu'n gweithio i Felipe II, brenin Sbaen. Claddwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari, Fenis.

Remove ads

Gweithiau

  • Fenws Urbino a Flora yn yr Uffizi yn Fflorens
  • Esgyniad Mair (Titian) a Madonna Pesaro yn y Basilica di Santa Maria Glorioso dei Frari yn Fenis
  • Portread o Clarissa Strozzi yn y Gemäldegalerie, Berlin


Oriel

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads