Titwod
teulu o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Adar bach sy'n bwyta pryfed, cnau a hadau yw titwod. Maen nhw'n byw yn Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America.[1] Adar y coetir yw titwod ond maen nhw wedi addasu i barciau a gerddi. Maen nhw'n dodwy hyd at 12 ŵy mewn twll mewn coeden.[1]
Mae'r gwir ditwod yn perthyn i deulu'r Paridae. Mae tua 59 o rywogaethau, yn cynnwys y Titw Tomos Las, Titw Mawr, Titw Penddu, Titw Copog, Titw'r Helyg a Thitw'r Wern.[2] Mae dau deulu arall o ditwod, yr Aegithalidae (megis y Titw Cynffon-hir) a'r Remizidae (megis y Titw Pendil).
Mae'r Titw Barfog yn debyg i'r gwir ditwod ond dydy e ddim yn perthyn yn agos iddyn nhw.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
