Tom Cullen
cyfarwyddwr ffilm a aned yn Aberystwyth yn 1985 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor a chyfarwyddwr o Gymru yw Tom Cullen (ganwyd 17 Gorffennaf 1985).
Remove ads
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd yn Aberystwyth. Awduron oedd ei rieni. Mae ei dad yn Wyddel a'i fam yn Saesnes.[1] Yn Llandrindod y treuliodd ei blentyndod cyn symud i Gaerdydd pan oedd yn 12 oed. Yno, mynychodd Ysgol Uwchradd Llanisien.[2][3]
Cyn dechrau ar ei yrfa fel actor, bu'n rheoli tŷ bwyta Mecsicanaidd a bu'n ymwneud â'r byd cerddoriaeth. Mae ganddo ddau o blant.[4] Treuliodd flwyddyn yn Ysgol Ganolog Hyfforddiant Lleferydd a Chelfyddyd Drama, Llundain a graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd yn 2009 gyda gradd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd, mewn actio.[5]
Remove ads
Gyrfa
Tra yn y Coleg Cerdd a Drama, ymddangosodd yn y ffilm Daddy's Girl, a enillodd wobr BAFTA Cymru am y 'Ffilm Orau',[6] a serennodd yn Watch Me, a enillodd hefyd wobr BAFTA Cymru am 'Ffilm Fer'.[7] Ymddangosodd wedyn ar lwyfan, yn y ddrama Gorgio yn y Bristol Old Vic, Assembly a A Good Night Out in the Valleys yn Theatr Cenedlaethol Cymru ac yna yn The Sanger yn Theatr Sherman. Yn 2011, fe'i enwyd ar restr Screen International Stars of Tomorrow.[8]
Remove ads
Ffilmyddiaeth
Ffilm
Teledu
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads