Torasgwrn

cyflwr meddygol ble ceir difrod i asgwrn From Wikipedia, the free encyclopedia

Torasgwrn
Remove ads

Cyflwr meddygol yw torasgwrn (sydd weithiau'n cael ei dalfyrru yn y Saesneg i FRX neu Fx, Fx, neu #) ble mae difrod i undod neu barhad yr asgwrn. Gall torasgwrn fod yn ganlyniad i ergyd neu straen, neu'r anaf trawma lleiaf o ganlyniad i gyflyrau meddygol sy'n gwanhau'r esgyrn, megis osteoporosis, cancr yr esgyrn, neu osteogenesis imperfecta, ble mae'r toriad bryd hynny'n cael ei alw'n doriad patholegol.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Remove ads

Arwyddion a symptomau

Gall torasgwrn achosi poen am sael rheswm:[2]

  • Toriad ym mharhad y periosteum, ynghyd â neu heb toriad cyfatebol yn yr endosteum, gan fod gan y ddau nifer o dderbynyddion poen
  • Edema o feinwe meddal gerllaw sy'n cael ei achosi gan waedlestri periostealaidd yn gwaedu gan ysgogi poen gyda phwysau 
  • Gwingiadau cyhyrol sy'n ceisio cadw darnau'r asgwrn yn eu lle. Mae weithiau yn cael ei ddilyn gan grampio

Gall arwyddion a symptomau penodol eraill gael eu hachosi gan ddifrod i strwythurau cyfochrog, megis nerfau, llestri gwaed, llinyn y cefn, a gwreiddiau nerfau (gyda thorri'r asgwrn cefn), neu gynnwys creuanol (gyda thoriad yn y penglog).

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads