Toronto
dinas, Canada From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yng Nghanada yw Toronto, prifddinas talaith Ontario. Roedd gan y ddinas boblogaeth o 2,794,356 yn 2021.[1] Toronto yw’r ddinas fwyaf yng Nghanada a’r 4edd yng Ngogledd America. Mae’n ganolfan bwysig i fusnes, arian, celf a diwylliant ac un o’r mwyaf cosmopolitaidd y byd.[2][3]


Mae pobl cynhenid wedi byw in yr ardal ers dros 10,000 o flynyddoedd.[4]
Sefydlwyd York ym 1793 ar ôl pwrcas Toronto; daeth York yn brifddinas i Ganada Uwch.[5] Dioddefwyd y dref difrod mawr mewn brwydr yn y rhyfel yn erbyn Yr Unol Daleithiau ym 1812.[6] Newidiwyd enw York i Toronto ym 1834, a daeth Toronto yn brifddinas Ontario ym 1867.[7] Erbyn hyn, maint y ddinas yw 630.2 cilomedr sgwâr.
Iaith gyffredin y ddinas yw'r Saesneg, sy'n cael ei siarad gan y rhan fwyaf o'i bobl. Mae enw'r ddinas yn tarddu oddi wrth y gair Mohawk tkaronto, sy'n golygu 'man lle mae coed yn sefyll yn y dŵr'. Yn y gorffennol, roedd Toronto yn cael ei gweinyddu fel pum dinas annibynnol, a gafodd eu huno yn 1996.
Mae Eglwys Dewi Sant yn cynnal gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau ieithol.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amffitheatr Molson
- Amgueddfa Brenhinol Ontario
- Amgueddfa Gardiner
- Canolfan Toronto Eaton (siopa)
- Parc HTO
- Sgwâr Yonge-Dundas
- Tŵr CN
Enwogion
- Raymond Massey (1896-1983), actor
- Carmen Silvera (1922-2002), actores
- David Cronenberg (g. 1943), cyfarwyddwr ffilm
- John Candy (1950-1994), actor
Cludiant Cyhoeddus
Mae Comisiwn Cludiant Toronto (Saesneg: Toronto Transit Commission) yn cynnig gwasanaethau bws, tramffyrdd a rheilffyrdd tanddaearol. Mae 11 tramffordd a 4 lein danddaearol[8].
Mae gan Toronto 2 maes awyr, Maes awyr Pearson a Maes awyr Billy Bishop. Mae gwasanaethau rhyngwladol yn cyrraedd Maes awyr Pearson. Mae Maes awyr Billy Bishop ar Ynys Toronto; defnyddir gan wasanaethau lleol.
Mae gwasanaethau fferri yn mynd o Toronto i Ynys Ward, Ynys Canol a Pwynt Hanlan[9], ac mae un arall, siwrnai 121 medr o hyd, i Faes Awyr Billy Bishop[10]..
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

