Toyota

cwmni cynhyrchu cerbydau From Wikipedia, the free encyclopedia

Toyota
Remove ads

Cwmni cerbydau o Japan yw Toyota Motor Corporation (トヨタ自動車株式会社 Toyota Jidōsha KK) gyda'i bencadlys yn Toyota, Aichi, Japan. Yn 2012 Toyota oedd y cwmni mwyaf drwy'r byd yn y sector cynhyrchu, gyda Volkswagen AG a General Motors yn dynn wrth ei sodlau.[1] Ym Mawrth 2014, roedd 338,875 o weithwyr yn fydeang[2] ac erbyn Chwefror 2016 Toyota oedd 13eg cwmni mwyaf yn y byd, ym mhov sector.

Ffeithiau sydyn Math, Math o fusnes ...

Yng Ngorffennaf 2012 cynhyrchwyd y 200-miliynfed cerbyd.[3] Toyota, hefyd, oedd y cwmni cynhyrchu ceir cyntaf i gynhyrchu mwy na 10 miliwn o gerbydau'r flwyddyn; gwnaeth hynny am y tro cyntaf yn 2012.[1] ac yna yn 2013.[4][5][6]

Mae Toyota'n gwerthu mwy o geir heibrid nag unrhyw gwmni arall. Roedd cyfanswm gwerthiant ceir Toyota a Lexus gyda'i gilydd yn Ionawr 2017 yn 10 miliwn, carreg filltir bwysig ym myd cerbydau trydan. Ei brif fodel, o ran cerbydau heibrid yw'r Prius, gyda dros 6 miliwn o unedau wedi'u gwerthu' fydeang, hyd at Ionawr 2017.

Ffurfiwyd Toyota yn 1937 gan Kiichiro Toyoda fel fforch o un o gwmnïau ei dad, sef 'Diwydiannau Toyota' a oedd eisoes wedi cynhyrchu'r Toyota AA.

Ceir 5 brand: Hino, Lexus, Ranz, a Daihatsu.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads