Trefflemin

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia

Trefflemin
Remove ads

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg, de Cymru, yw Trefflemin[1] (Saesneg: Flemingston).

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Gorwedd y pentref ar lan orllewinol Afon Ddawan tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o dref Y Bont-faen.

Mae Trefflemin yn adnabyddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel cartref yr hynafiaethydd amryddawn, bardd a ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg (1747-1826). Ganed Iolo ym mhentref Pennon, plwyf Llancarfan, ond symudodd ei rieni i fyw mewn bwthyn yn Nhrefflemin yn fuan ar ôl ei eni. Mae gan y pentref a'r wlad o'i gwmpas ran bwysig yn y Forgannwg ramantaidd a greuwyd gan Iolo yn ei farddoniaeth a rhai o'i ffugiadau. Erbyn heddiw dim ond muriau'r bwthyn sy'n aros, yn rhan o fuarth fferm yng nghanol y pentref.[2]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads