Treforys

cymuned yn Ninas Abertawe From Wikipedia, the free encyclopedia

Treforys
Remove ads

Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Treforys[1][2] (Saesneg: Morriston), sy'n gartref i ganolfan y DVLA ac un o ysbytai mwyaf Cymru.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Sefydlwyd Treforys tua 1720 pan agorwyd gwaith copr gan Syr John Morris (1745-1819). Roedd y dref yn ganolfan i'r diwydiannau metel tan 1980 pan gaeodd Gwaith Dyffryn, gwaith olaf Treforys.

Mae Clwb Rygbi Treforys yn chwarae yn Adran 2 o Gynghrair Cymru.

Treforys yw cartref Côr Orpheus Treforus, un o gorau meibion enwocaf y byd. Mae'r côr yn teithio'r byd i gyd. Capel Tabernacl yng nghanol y dref yw capel mwyaf Cymru. Mae rhai'n ei alw'n "Eglwys Gadeiriol yr Annibynwyr". Agorwyd y Tabernacl yn 1872.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[3][4]

Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Enwogion

  • Sid Bevan (1877 - 1933) Chwaraewr rygbi rhyngwladol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads