Treiglad

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Newid mewn cytsain ar ddechrau gair yn ôl ei safle neu ei swyddogaeth yw treiglad. Mae treigladau'n nodweddiadol o'r ieithoedd Celtaidd, ond maent yn digwydd mewn sawl iaith arall fel Fula (iaith yng ngorllewin Affrica), Dholuo o Cenia a Nivkh (iaith o Siberia) a phob un o'r ieithoedd Celtaidd.

Mae gan yr ieithoedd Goedelaidd (Gaeleg yr Alban, Manaweg a Gwyddeleg) ddau dreiglad; tri sydd i'r Gymraeg a Chernyweg ac mae gan y Llydaweg (a'r Frythoneg) bedwar math. Drwy'r defnydd o'r treiglad, ym mhob un o'r ieithoedd Celtaidd, gallwn ddeall rhyw'r person y cyfeirir ato; er nghraifft yn y Gymraeg, pan ddywedir, ‘Mae ei chwch yn y porthladd’ gwyddwn mai merch bia'r cwch, nid dyn.[1]

Remove ads

Treigladau yn Gymraeg

Mae tri phrif dreiglad gan y Gymraeg, sef

  • y treiglad meddal
  • y treiglad trwynol
  • y treiglad llaes

Treiglad meddal

Treiglad mwyaf cyffredin y Gymraeg yw'r treiglad meddal, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "i", er enghraifft);

  • B → F; i Fangor
  • C → G; i Gaerdydd
  • D → Dd; i Ddolgellau
  • G yn disgyn; i GWent
  • Ll → L; i Langollen
  • M → F; i Fynwy
  • P → B; i Bont y Pŵl
  • Rh → R; i Radyr
  • T → D; i Dredegar

Treigladau meddal yn yr ieithoedd Celtaidd

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau meddal yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith orgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei wneud yn haws i gymharu'r ieithoedd. Er enghraifft, mae çh ym Manaweg yn gyfartal â t (fain) yn yr ieithoedd Gaelaidd eraill.

Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad meddal yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Rhagor o wybodaeth Cytsain wreiddiol, Cytsain dreigledig ...

Treiglad trwynol

Yr ail dreiglad yw'r treiglad trwynol, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "yn" er enghraifft);

  • B → M; ym Marri
  • C → Ngh; yng Nghaerdydd
  • D → N; yn Nolgellau
  • G → Ng; yng Ngrug
  • P → Mh; ym Mhont y Pridd
  • T → Nh; yn Nhregaron

Treigladau trwynol yn yr ieithoedd Celtaidd

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau trwynol yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith orgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cymharu yr ieithoedd. Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad trwynol yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Rhagor o wybodaeth Cytsain wreiddiol, Cytsain dreigledig ...

Treiglad llaes

Y trydydd treiglad yw'r treiglad llaes, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "ei" er enghraifft);

  • C → Ch; ei char hi
  • P → Ph; ei phwrs hi
  • T → Th; ei thocyn hi

Treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith ei horgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cymharu yr ieithoedd. Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad llaes yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Rhagor o wybodaeth Cytsain wreiddiol, Cytsain dreigledig ...
Remove ads

Treigladau caled a chymysg yn Gernyweg

Defnyddir y treiglad caled i'r berfenw sy'n dilyn y geiryn ow mewn cystrawen beriffrastig, e.e. Yma’n maw ow tybri bara ‘Mae'r bachgen yn bwyta bara’.

Defnyddir y treiglad cymysg wedi geiryn adferfol (yn), geiryn rhagferfol (y) a rhagenw dibynnol ail berson unigol (-jy, ’th); e.e. yn fras ‘yn (ddir)fawr’; Prag y tysk ev? ‘Pam ei fod yn dysgu?’.

Rhagor o wybodaeth Ffurf gysefin, Cytsain wedi'i treiglo'n galed ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads