Treth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Treth yw tâl a orfodir ar unigolion neu bobl neu fusnesau gan lywodraeth, brenin, neu arglwydd neu ryw awdurdod arall, yn aml fel cyfran o incwm neu gynnyrch economaidd. Gelwir treth eglwys yn ddegwm.
Ceir ymgyrchoedd i gael treth gwerth tir yn hytrach na threth incwm yn yr Alban a Lloegr er mwyn trethi'r hyn a ddefnyddir yn hytrach na llafur.
Ymgyrch i gael ffurflenni Treth y Cyngor yn Gymraeg
Dyma un o ymgyrchoedd cyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei hymladd: ymgyrch i gael ffurflen treth y Cyngor yn Gymraeg oedd hon, yn 1963. Brwydr gan Gell Bangor oedd hon, hefyd, 'mewn cyfnod pan nad oedd y Gymdeithas [yn genedlaethol] yn weithredol', chwedl Emyr Llywelyn. Yn ôl Geraint Jones yn ei gyfrol Brwydr yr Iaith, 1962-67:
- Owain Owain oedd y Dafydd a Phwyllgor Cyllid Dinas Bangor oedd y Goliath.
- Diolch i Owain a'i ganfasio trylwyr ymysg y cynghorwyr', pasiwyd i gael ffurflenni Cymraeg o 1 Ebrill 1966 ymlaen.[1]
Dyma, yn fwy na thebyg, fuddugoliaeth gynta'r Gymdeithas. Aeth Cell Bangor ati wedyn i fyny ffurflen treth incwm Cymraeg, a bu'n llwyddiannus yn hynny hefyd.
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads