Val Feld

gwleidydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Val Feld
Remove ads

Gwleidydd o Gymru ac aelod o'r Blaid Lafur oedd Valerie "Val" Feld (ganwyd Valerie Breen Turner (29 Hydref 194717 Gorffennaf 2001). Bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 tan ei marwolaeth yn 2001.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ffeithiau sydyn Geni, Plaid wleidyddol ...
Remove ads

Bywgraffiad

Ganwyd Valerie Breen Turner ym Mangor, ac addysgwyd yn Ysgol yr Abaty yn Malvern. Priododd John Feld ym 1969, a chawsont dau o blant. Gweithiodd fel gohebydd yn Llundain a gweithio'n rhoi cyngor cartrefu yn Swydd Gaerhirfryn. Daeth yn gynghorydd lleol yn cynyrchioli'r Blaid Lafur yn Chorley, Swydd Gaerhirfryn. Gweithiodd hefyd am gyfnod fel gweithiwr cymdeithasol. Ym 1981, yn dilyn ysgariad, dychwelodd i Gymru. Yno sefydlodd a daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Shelter Cymru. Yn ei hamser sbâr, astudiodd tuag at radd Meistr y Celfyddydau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ym 1989, apwyntiwyd yn bennaeth y Comisiwn Cyleoedd Cyfartal yng Nghymru. Deliodd y swydd hon am ddeng mlynedd, cyn dod yn drysorydd ymgyrch 'Ie Dros Gymru' a sefyll a chael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe.[1]

Feld oedd y gwleidydd cyntaf i farw yn ei swydd yn y Cynulliad, a cynhaliwyd is-etholiad ar 27 Medi 2001.[2] Roedd yn wleidydd a pharchwyd yn fawr, ac yn adnabyddus am ei actifyddiaeth cymdeithasol. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Datblygaeth Economaidd y Cynulliad hyd Mai 2001.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, "I believe I speak for the whole of Wales when I say that the death of Val Feld is a grievous blow for us all".

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads