Vikki Howells
gwleidydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Llafur Cymru yw Vikki Howells sydd wedi cynrychioli etholaeth Cwm Cynon yng Nghynulliad Cymru ers etholiad 2016.
Remove ads
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Howells yn Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf.[1]
Gyrfa
Gyrfa addysg
Roedd Howells yn athrawes am 16 mlynedd.[2] Cyn ei hethol i'r Cynulliad, roedd yn athrawes hanes a phennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun St Cenydd yng Nghaerffili, De Cymru.[3] Cymerodd absenoldeb drwy ganiatâd i ymgyrchu ar gyfer etholiad, ac fe fyddai wedi dychwelyd i'w gwaith ar y dydd Llun yn dilyn yr etholiad pe na bai hi wedi bod yn llwyddiannus.[1]
Gyrfa wleidyddol
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd bod Howells wedi cael ei dewis fel ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer etholaeth Cwm Cynon yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.[3] Mae hi wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers dros 20 mlynedd.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,830 pleidlais (51.1% o'r pleidleisiau a fwriwyd).[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads