Vladimir Lenin

gwleidydd, chwyldroadwr (1870-1924) From Wikipedia, the free encyclopedia

Vladimir Lenin
Remove ads

Chwyldroadwr o Rwsia, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин, trawslythreniad: Fladimir Lenin)[1], enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg: Влади́мир Ильи́ч Улья́нов; trawslythreniad: Fladimir Ilitsh Wlianof)[1] (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroadau Rwsia. Ystyrir ef yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialiaeth wyddonol ynghyd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol, a gelwir ei syniadaeth yn Leniniaeth.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Llais ...
Remove ads

Bywyd cynnar

Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei ddaliadau gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwblhau gradd yn y gyfraith.

Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.

Remove ads

Cysylltiad â Chymru

Daeth R. Silyn Roberts yn gyfaill â Lenin pan oedd y ddau yn treulio amser yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.[2][3]

Llyfryddiaeth

  • Что делать? (1902)
  • Шаг вперёд, два шага назад (1904)
  • Материализм и эмпириокритицизм (1909)
  • Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
  • Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
  • Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)

Astudiaethau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads